S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cegin S4C

Rosti lentil a llysiau

Cynhwysion

  • 2 llwy fwrdd olew llysiau
  • 1 winwns
  • 2 ewyn garlleg
  • 1 moron mawr
  • 1 coes seleri
  • 1 tun 400g tomatos
  • 1 tun 400g lentils
  • 1 llwy fwrdd piwri tomato
  • 100g madarch
  • 1 llwy fwrdd saws soi
  • 1 llwy fwrdd perlysiau cymysg sych
  • 1 deilen bae
  • 600g tatws (Maris piper. Desiree)
  • 30g menyn

Dull

  1. Piliwch a thorrwch y winwns ac ychwanegwch i'r olew wedi cynhesi mewn sosban saute. Coginiwch am 8 i 10 munud dros dymheredd cymedrol nes iddyn nhw ddechrau troi'n euraidd, drowch yn achlysurol.
  2. Piliwch a thorrwch y moron a seleri ac ychwanegwch y winwns cyn coginio am 4 munud cyn adio'r tomatos, puree, saws soy, perlysiau a deilen llawryf. Rinsiwch y tun o domatos efo dŵr ac ychwanegwch y llysiau yna gadwch i goginio am 20 munud yna arllwyswch y can o lentils a madarch. Cymysgwch yn drylwyr yna arllwyswch mewn i ddysgl ffwrn 1.7-2 litr.
  3. Cynheswch y ffwrn i 200°C / ffan 180°c / Nwy 6.
  4. Rhowch y tatws yn gyfan a gyda'r croen mewn i sosban fawr a gorchuddiwch efo dŵr oer. Yna cynheswch a berwi'r tatws am 7-10 munud. Draeniwch y tatws yna gosod nhw mewn dŵr oer eto i oeri, yna gratiwch mewn i bowlen fawr. Toddwch y menyn ac arllwyswch ar draws y tatws.
  5. Topiwch y cymysgedd lentil efo'r tatws yna pobwch am 35 munud nes yn crisp ac euraidd.

Rysáit gan Nerys Howell, wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Prynhawn Da.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?