Pysgod, sglodion a phys tsili
Cynhwysion
- 360g tatws
- 3 llwy de olew
- 240g corbenfras (hadog)
- 30g briwsion bara gwenith llawn
- bwnsh bach o bersli a dil
- croen hanner lemon
- 120g pys wedi rhewi
- 80g llysiau gwyrdd y gwanwyn
- naddion tsili
- halen a phupur
Dull
- Cynheswch y popty ymlaen llaw i ffan 180c.
- Glanhewch y tatws a'u torri yn sleisys, yna eu rhoi mewn bowlen ac arllwys 2 llwy de o olew drostynt gyda phinsiad o halen a phupur. Trowch y tatws yn yr olew a'r sesnin yna eu lledaenu ar dun pobi a'u pobi yn y popty am 20-25munud.
- Tra bo'r tatws yn coginio, torrwch y perlysiau yn fan a'u cymysgu hefo'r briwsion bara, croen lemon a sesnin. Brwsiwch y pysgodyn hefo gweddill yr olew a gorchuddio'r pysgodyn hefo'r gymysgedd bara. Ychwanegwch y pysgodyn at y tatws ar ôl yr 20-25munud a choginio pob dim am 15-20munud arall.
- Yn y cyfamser, golchwch y llysiau gwyrdd a'u torri'n fan. Coginiwch y pys a'r llysiau mewn dŵr berwedig hefo ychydig o halen am rhai munudau.
- Gweinwch y pysgodyn a'r tatws hefo'r llysiau a phinsiad da o naddion chili a joch o sudd lemon.
Rysaít gan Beca Lyne-Pirkis ar gyfer FFIT Cymru.
Am fwy gan FFIT Cymru, ewch i ffit.cymru
Instagram Beca: @becalynepirkis
Instagram FFIT Cymru: @ffitcymru