Nwdls cig eidion a llysiau wedi ffrio
Cynhwysion
- ½ llwy fwrdd olew – sesame / llysiau
- 150g 5% briwgig eidion
- 3 clof garlleg
- 15g o sinsir ffres
- 3 shibwns
- 80g mange tout
- 1 pupur gwyrdd
- 80g brocoli
- 1 llwy fwrdd saws soi halen isel
- 140g nwdls wy sych
- 1 chilli coch
Dull
- Paratowch y llysiau i gyd cyn cychwyn coginio, oherwydd ni fydd y pryd bwyd yn cymryd yn hir.
- Os oes gennych wok, grêt – os ddim yna fydd ffreipan fawr yn berffaith.
- Torrwch y garlleg, sinsir a shibwns (ond cadwch 1 at wedyn), torrwch y pupur gwyrdd mewn i sleisys a'r brocoli mewn i florets bach.
- Gadwch y mange tout fel y maent a thorrwch hanner y chilli yn fân (gan waredu'r hadau os nad ydych yn hoffi pethau sbeislyd, a chadw'r hanner arall tuag at wedyn).
- Coginiwch y nwdls yn ôl cyfarwyddiadau'r paced.
- Yn y wok neu'r ffreipan fawr, cynheswch yr olew dros wres canolog-uchel ac ychwanegwch y cig i frownio am ychydig funudau.
- Nesaf ychwanegwch y garlleg, sinsir, shibwns, mange tout, pupur gwyrdd a'r brocoli a tro ffrio hefo'r cig eidion am ychydig funudau.
- Ar ôl ychydig funudau, ychwanegwch y nwdls wedi eu draenio a chymysgwch drwyddo.
- Yn olaf ychwanegwch y saws soi a chymysgu drwyddo.
-
Gweinwch yn syth, a rhannwch y pryd rhwng 2 blât.
- Addurnwch hefo gweddill y sbigoglys a chili wedi eu torri.
Rysaít gan Beca Lyne-Pirkis ar gyfer FFIT Cymru.
Am fwy gan FFIT Cymru, ewch i ffit.cymru
Instagram Beca: @becalynepirkis
Instagram FFIT Cymru: @ffitcymru