S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cegin S4C

Ynys meringue

Cynhwysion

  • meringue
  • 4 gwynwy
  • 100g siwgr caster
  • cwstard
  • 4 melynwy
  • 200g hufen chwipio
  • 200g llefrith
  • 100g siwgr caster
  • pod fanila
  • mefus ffres
  • piwrî mafon

Dull

  1. Cychwynnwch trwy wahanu'r wyau i mewn i bowlenni ar wahân. Ychwanegwch 100g o siwgr caster i'r melynwy a'i chwipio nes yn olau.
  2. I wneud y meringue, ychwanegwch draean o'r siwgr i'r gwynwy a'i chwipio nes yn ffrothlyd. Ychwanegwch draean arall o'r siwgr a'i chwipio nes bod y gwynwy yn troi yn sgleiniog. Yna, ychwanegwch y traean olaf o'r siwgr a'i chwipio nes bod y gwynwy yn stiff.
  3. Mewn padell, cynheswch y llefrith a'r hufen chwipio gyda hadau'r pod fanila nes bron a berwi. Rhowch sgwpiau o'r gymysgedd meringue yn yr hylif cynnes gan wneud yn siŵr nad ydi'r llefrith a'r hufen yn dod i'r berw. Potsiwch y meringue am 2-3 munud ar bob ochr cyn eu tynnu o'r hylif.
  4. I wneud y cwstard, rhowch yr hylif trwy hidlwr i gael gwared ar unrhyw ddarnau o'r meringue a'i osod yn ôl ar y gwres cyn iddo ddod i'r berw. Unwaith y mae wedi berwi, mae eisiau tywallt y gymysgedd dros y melynwy a'r siwgr gan ei chwipio yn gyson.
  5. Rhowch y gymysgedd yn ôl ar y gwres a'i goginio ar wres isel nes ei fod yn drwchus. Unwaith y mae wedi coginio, tynnwch oddi ar y gwres a'i roi trwy'r hidlwr unwaith eto.
  6. Sleisiwch y mefus yn chwarteri a'u cymysgu gyda llwyaid o biwrî mafon.
  7. I orffen, rhowch y meringue mewn powlen a defnyddio blowtorch nes yn euraidd. I'w weini gyda mefus a dail basil cyn arllwys y cwstard dros y meringue. Peidiwch ag anghofio'r ddeilen aur!

Rysáit wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Anrhegion Melys Richard Holt.

Rysáit gan Richard Holt.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?