S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cegin S4C

Asen cig eidion Cymreig

Asen Cig Eidion Cymreig

Cynhwysion

  • darn asen cig eidion tua 3.5-3.8kg
  • olew llysiau
  • halen a phupur

Dull

  1. Twymwch y ffwrn i wres o 95˚C ffan / 115˚C.
  2. Tynnwch y cig o'r oergell o leiaf 30-45 munud o flaen llaw.
  3. Pwyswch y cig i wybod pa mor hir i'w goginio. Fe fyddwch chi angen 30 munud i bob 500g. Fe ddylai 40 munud ychwanegol roi cig canolig - gwaedlyd/canolig i chi.
  4. Rhowch olew mewn padell ffrio, rhowch sesnad ar y cig a'i liwio yn y badell. Byddwch yn ofalus wrth droi'r cig.
  5. Wedyn, rhowch y cig mewn tun pobi gyda'r sudd o'r badell a'i rostio yn y ffwrn am 4 - 4 ½ awr. Mae'n syniad da defnyddio thermomedr ar gyfer cigoedd i wneud yn siwr bod y cig wedi ei goginio yn berffaith.
  6. Wedyn, mesurwch dymheredd y cig.Bydd angen bod rhwng 55˚C-60˚C.
  7. Gadewch y cig i orffwys am 1 awr cyn ei dorri.

Rysáit wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Parti Bwyd Beca.

Rysáit gan Beca Lyne-Pirkis.

Cinio Rhost:

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?