S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cegin S4C

Pasta tomato a cannellini

Cynhwysion

  • saws tomato
  • 1 winwnsyn
  • 2 llwy fwrdd olew llysiau
  • 2 clof garlleg
  • 4 llwy fwrdd piwrî tomato
  • 350ml passata tomato
  • 1 llwy de siwgr

Cynhwysion ychwanegol

  • ½ llwy de fflecs tsili
  • 400g tin ffa cannellini
  • 100ml llaeth (mae'n bosib defnyddio llaeth soi, almwn, neu eich hoff llaeth fegan os nad ydych am ddefnyddio llaeth)
  • 300g penne sych

Dull

  1. Piliwch a thorrwch y winwns a gratiwch y garlleg. Cynheswch sosban maint cymedrol i dymheredd cymedrol, yna ychwanegwch olew a ffriwch y winwns am 3 i 4 munud cyn adio'r garlleg a choginio am funud ychwanegol.
  2. Ychwanegwch y piwrî tomato, passata, siwgr, tsili, halen + phupur a 100ml dwr i olchi allan y carton tomato. Berwch, gorchuddiwch y sosban a gostyngwch y gwres yna coginiwch am 10 munud arall.
  3. Berwch dwr hallt mewn sosban fawr yna ychwanegwch y penne a choginiwch am 10 i 15 munud. Yna arllwyswch y dŵr i ffwrdd.
  4. Gosodwch y ffa, ei sudd a llaeth mewn i gymysgydd (blender) yna cymysgwch nes mae'n esmwyth.
  5. Unwaith mae'r saws wedi troi'n fwy trwchus ychwanegwch yr hufen ffa a sesnin. Arllwyswch y saws ar draws y pasta.
  6. Platiwch i fyny gyda bach mwy tsili a dail basil ffres.

Rysáit gan Nerys Howell, wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Prynhawn Da.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?