Neidio i'r prif gynnwys
Hafan S4C
S4C Clic
Newyddion
Amserlen Teledu
English
Golau
Tywyll
Pori
Pori
Adloniant
Chwaraeon
Cerddoriaeth
Drama
Ffeithiol
Cyw
Stwnsh
Appearance
Golau
Tywyll
English
Hafan Cegin
Llysieuol
Cig
Gan Colleen Ramsey
Byrgyr falafel
Gan
Catrin Thomas
Llysieuol
Hawdd
Cynhwysion
1 tun 400g gwygbys
3 shibwns, wedi'u torri'n fân
1 ewin o arlleg
cymysgedd o berlysiau - persli, coriander
1 llwy de cwmin daear
1 llwy de o goriander daear
hanner llwy de o bast harrisa
50g o flawd plaen
1/2 llwy de o bowdr pobi
2 neu 3 llwy fwrdd o olew blodyn yr haul
jam tsili, houmous neu mayo
byns
salad, winwns coch, tomatos
Dull
Draeniwch y gwygbys, gan gadw'r hylif.
Rhowch hanner tgr gwygbys mewn prosesydd bwyd a blitz.
Ychwanegu'r shibwns, garlleg, sbeisys mâl, b. powdr a pherlysiau.
Ychwanegwch y 50g o flawd plaen.
Ychwanegwch ychydig o'r dŵr neilltuedig a phinsiad da o halen.
Blitz i bast bras.
Ychwanegwch weddill y gwygbys a blitz eto gan wneud yn siŵr eich bod yn cadw'r gwead.
Rhowch mewn powlen a'i gadw yn yr oergell am 30 munud.
Siapio'r cymysgedd yn 4 byrgyr, gan wneud yn siŵr eu bod yn gyfartal o ran maint.
Gorchuddiwch y patties mewn 60g o flawd plaen, llwch oddi ar unrhyw swm dros ben.
Cynhesu 1cm o olew blodyn yr haul dros wres canolig.
Ffrio am tua 3-4 munud.
Gweinwch gyda bynsen, salad, jam tsili a hwmws.
Rysáit gan Catrin Thomas, wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Prynhawn Da.