Cegin S4C

Cegin S4C

Cawl llysiau

    Cynhwysion

    • 6 moron
    • 1 swêd / rwden / erfin
    • 2 pannas
    • 1 winwns
    • 1 deilen bae
    • 1 ciwb stoc llysiau
    • 2 litr o ddŵr
    • 150g-200g bresych ffres neu wedi'i rewi
    • 6- 8 tatws bach newydd
    • halen a phupur

    Dull

    1. Torrwch a chrafu'r holl lysiau, moron, swêd a phannas yn ddarnau. Tatws wedi'u torri'n chwarteri, a'r winwnsyn yn fan. Torrwch y bresych i stribedi tenau os yn defnyddio un ffres.
    2. Ychwanegwch 1 llwy fwrdd o olew i sosban, ac ychwanegwch y winwnsyn, tatws, swêd, pannas a moron, coginiwch am 5 munud.
    3. Ychwanegwch ddeilen y bae a'r halen a'r pupur.
    4. Ychwanegwch y ciwb stoc ac 1 litr o ddŵr.
    5. Ychwanegwch y bresych.
    6. Coginiwch am 10 munud ar wres canolig.
    7. Ychwanegwch ddŵr ychwanegol yn dibynnu ar ba mor drwchus neu denau y mae'n well gennych i'r cawl fod.
    8. Gweinwch gyda bara ffres gyda rhywfaint o fenyn neu gaws.

    Rysait gan Lloyd Henry (Cegin Mr Henry).

    Instagram: @CeginMrHenry

    Twitter: @CeginMrHenry