Cegin S4C

Cegin S4C

Pei cyw iâr a ham

Cynhwysion

  • crwst pwffio (puff pastry)
  • 1 ŵy
  • cennin
  • menyn
  • olew
  • 1 llwy fwrdd blawd plaen
  • cyw iâr wedi ei dorri (shredded)
  • ham
  • 1 llwy fwrdd mwstard dijon
  • broccoli a moron i weini

Dull

  1. Cynheswch y popty i 185°. Torrwch y crwst mewn i sgwariau neu betryalau bach. Brwsiwch gydag ŵy. Gallwch wneud patrwm os y chi'n ffansi. Pobwch am 15 munud.
  2. Ffriwch y cennin mewn menyn ag olew ag ychwanegwch y blawd am funud neu ddau.
  3. Ychwanegwch y stoc tan fod y llenwad yn drwchus. Ychwanegwch y cyw iâr, ham a mwstard Dijon.
  4. Pan ma'r crwst yn barod oerwch a'i dorri mewn hanner.
  5. Rhowch y llenwad rhwng y crwst a'i weini gyda moron a brocoli.

Rysaít gan Colleen Ramsey (Colleen Ramsey: Bywyd a Bwyd).

Instagram: @colleen_ramsey

Twitter: @_C_Ramsey