Saws pasta
Cynhwysion
- 2 ewyn garlleg
- 1 llwy fwrdd olew olewydd
- 2 bupur wedi rhostio (wedi eu prynu) a'i torri'n gwrs
- ½ jar passata
- 1 ciwb stoc ffowlyn cyfan neu giwb stoc llysiau jeli
- halen a phupur
Dull
- Cynheswch y garlleg a'r olew olewydd dros wres isel am funud, ac wedyn ychwanegu'r puprod.
- Coginiwch am 2 funud wedyn ychwanegu'r passata a'r ciwb stoc jeli.
- Trowch y gwres i fyny a dod ag ef i'r berw, wedyn trowch y gwres lawr yn is am tua 5 munud.
- Blitsiwch gyda blender llaw ac ychwanegu halen a phupur i flasu. Cadwch ddŵr y pasta pan fyddwch chi'n ei ferwi.
- Arllwyswch y saws dros eich pasta gydag ychydig o'r dŵr sydd dros ben. Gweinwch gydag ychydig gaws Parmesan ffres a dail basil.
Rysaít gan Colleen Ramsey (Colleen Ramsey: Bywyd a Bwyd).
Instagram: @colleen_ramsey