Cegin S4C

Cegin S4C

Stêc Chimichurri

Cynhwysion

  • 2 stêc sirloin trwchus
  • 100g persli ffres
  • ¼ pupur coch wedi ei dorri'n fân
  • ewin bach o arlleg
  • 2 tbsp finegr gwin coch
  • 1 tbsp mêl
  • 1 cwpan olew olewydd
  • 50g oregano
  • ½  sialot
  • pupur cayenne

Dull

  1. Tynnwch y stêc allan o'r oergell i gyrraedd tymheredd yr ystafell am 30-40 munud. Rhowch olew ar ddwy ochr y stêcs.
  2. Cynheswch badell at dymheredd poeth yna seriwch y steciau am 1 munud ac yna trowch y tymheredd i lawr i ganolig a choginiwch am 2 funud.
  3. Trowch y steciau ac ychwanegu halen. Trowch y tymheredd i fyny a seriwch am 1 munud. Trowch y tymheredd i ganolig a choginiwch am 2 funud.
  4. Nawr rhowch lond llwy fwrdd o fenyn, gyda pherlysiau a garlleg os dymunwch, yna basiwch y stêc. Gadewch i orffwys ar blât cynnes neu mewn parsel ffoil am 5-6 munud.
  5. Os yw eich stêc yn deneuach, cwtogwch yr amser coginio.
  6. Ar gyfer y chimichurri torrwch y pupur, y persli, yr oregano a'r sialots, yn fân, minsiwch y garlleg. Nawr ychwanegwch olew a finegr nes ei fod yn saws a all ddisgyn oddi ar lwy. Ychwanegwch y cayenne a'r mêl i flasu.
  7. Gweinwch gyda rhywfaint o datws newydd neu beth bynnag y dymunwch.

Rysaít gan Colleen Ramsey (Colleen Ramsey: Bywyd a Bwyd).

Instagram: @colleen_ramsey