Toes cwci
Cynhwysion
- 225g menyn hallt
- 150g siwgr caster
- 100g siwgr brown meddal
- 2 ŵy
- past fanila
- 400g blawd plaen
- 1 llwy de fawr (heaped) powdr pobi
- halen
- 200g darnau siocled
- 100g pretzels hallt wedi torri
Dull
- Curwch y siwgr a'r blawd nes yn ysgafn
- Ychwanegwch hanner y gymysgeth ŵy/fanila a hanner y gymysgedd blawd, powdr pobi a halen.
- Cymysgwch yn dda a wedyn ychwanegu gweddill y cynhwysion gwlyb, ac yna'r sych
- Pan wedi cyfuno, ychwanegwch y darnau siocled a'r pretzels
- Rholiwch i siâp selsig gan ddefnyddio ffilm a rhewi nes yn barod i bobi.
- Pan yn barod i goginio, rhowch ar hambwrdd pobi yn syth o'r rhewgell ar ol eu sleisio a phobwch am 8-10 munud ar 175°C ac yna 5 munud ar 200°C.
Rysaít gan Colleen Ramsey (Colleen Ramsey: Bywyd a Bwyd).
Instagram: @colleen_ramsey