Mae S4C yn awyddus i gefnogi unigolion sydd â diddordeb mewn gyrfa ym myd darlledu Chwaraeon Cymraeg, ac sy'n dod o gefndir Du, Asiaidd neu ethnig lleiafrifol, drwy gynnig bwrsariaeth i astudio ar gwrs MSc Darlledu Chwaraeon ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd. Mae'r fwrsariaeth yn gynllun ar y cyd â Rondo a Media Atom.
Mae'r fwrsariaeth yn agored i unrhyw fyfyriwr o Gymru o gefndir Du, Asiaidd neu leiafrif ethnig a fydd yn astudio ar MSc Darlledu Chwaraeon ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd yn y flwyddyn academaidd 2022-2023. Mae'r gallu a'r ymrwymiad i weithio drwy'r Gymraeg yn angenrheidiol. Os fydd angen, mae croeso i chi drafod unrhyw gefnogaeth ychwanegol y gallech fod ei angen (e.e. cyrsiau gloywi iaith).
Mae'r fwrsariaeth yn cynnwys £9000 i dalu ffioedd y cwrs gan S4C, Rondo a Media Atom. Gallwch weld manylion bellach am y cwrs MSc Darlledu Chwaraeon isod.
I wneud cais ar gyfer y fwrsariaeth, bydd disgwyl i chi gyflwyno datganiad personol sy'n cynnwys crynodeb gyrfa a phrofiad unai ar ffurf ysgrifenedig (dim mwy na 500 air) NEU ar ffurf fideo (dim mwy na 5 munud o hyd). Bydd canllaw ar gael i chi o ran y math o beth gallwch chi gynnwys yn y datganiad.
I ddangos eich diddordeb neu am sgwrs anffurfiol am y cyfle hwn, cysylltwch â nia.edwards-behi@s4c.cymru. Dyddiad cau ceisiadau yw 01.08.2022.
Mae ceisiadau ar gyfer y fwrsariaeth ar agor i unrhyw unigolyn sy'n bodloni'r gofynion canlynol:
Yn ychwanegol, bydd rhaid i unrhyw ymgeisydd fodloni gofynion mynediad y cwrs, sef:
MSc Darlledu Chwaraeon
Wedi'i hachredu'n broffesiynol gan y BJTC (Cyngor Hyfforddi Newyddiaduraeth Darlledu) mae gan y radd meistr hon ffocws ymarferol, wedi'i dylunio a'i darparu gan weithwyr proffesiynol y diwydiant darlledu chwaraeon i greu ymarferwyr Darlledu Chwaraeon a'u paratoi i fod yn barod ar gyfer cyflogaeth mewn newyddiaduraeth darlledu chwaraeon ac ar draws y diwydiant cyfryngau.
Ysgrifennwyd y cwrs gradd meistr mewn cydweithrediad â newyddiadurwyr darlledu chwaraeon o'r BBC, ITV, Sky Sports a'r Cyngor Hyfforddi Newyddiaduraeth Ddarlledu. Rydyn ni'n dysgu newyddiaduraeth ddarlledu draddodiadol ar gyfer oes y cyfryngau digidol, newydd. Rhoddir pwyslais ar gynhyrchu digwyddiadau byw, newyddiaduraeth ddarlledu ac adrodd straeon digidol aml-blatfform.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Prifysgol Fetropolitan Caerdydd.
S4C
Mae S4C yn darparu cynnwys a gwasanaethau cyfryngol yn yr iaith Gymraeg sydd o safon uchel, sy'n cynnig adloniant, gwybodaeth ac sy'n ysbrydoli, ac sy'n anelu i gyrraedd cymaint o bobl â phosibl ar y llwyfannau cyfoes mwyaf priodol.
Rondo
Mae Rondo yn gwmni cynhyrchu aml-genre annibynnol sy'n cynhyrchu cynnwys i ystod eang o ddarlledwyr yn y Deyrnas Unedig a thu hwnt.
Mae Rondo yn darparu cannoedd o oriau o gynnwys chwaraeon y flwyddyn. Mae gan y cwmni dros 30 mlynedd o brofiad cynhyrchu rhaglenni pêl-droed ynghyd â chynnwys digidol arloesol i S4C. Mae brand Sgorio yn gartref i bêl-droed rhyngwladol a domestig gan gynnwys darllediadau o bêl-droed byw mor bell ac agos â Reykjavik, Wembley, Helsinki a Hwlffordd!
Media Atom
Mae Media Atom yn gwmni cynhyrchu annibynnol gyda'i chartref yng Nghymru ac sy'n canolbwyntio ar greu cynnwys chwaraeon cyffroes ac o'r safon uchaf.
Mae gennym dros 35 mlynedd o brofiad o greu cynnwys chwaraeon i S4C, BBC, Sky Sports, BT Sport, ITV, Channel 4, a Channel Five. Rydym yn creu cynnwys ar gyfer amryw o blatfformau gan gynnwys gweddarllediadau a chyfryngau cymdeithasol.
O ddarllediadau byw aml-gamera, i uchafbwyntiau a rhaglenni ffeithiol, ar draws ein hallbwn bydd ein cynnwys yn adlonni, addysgu a chyffroi.