S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Rygbi

Lydiate a King yn gwella

Bydd bois rheng ôl Cymru, Dan Lydiate a James King yn cael gwybod yn ystod yr wythnosau nesaf pryd byddan nhw'n debygol o allu dychwelyd i chwarae i'r Gweilch yn y tymor newydd.

Dioddefodd Lydiate ddau anaf tra'n gapten ar Gymru yn eu gêm yn erbyn Lloegr yn Twickenham ym mis Mai. Mae wedi derbyn llawdriniaeth ar ei ysgwydd ac hefyd wedi derbyn triniaeth ar linyn ei ar.

Oherwydd yr anafiadau rheiny, nid oedd yn bosib idddo fynd ar y daith tair gem Brawf i Seland Newydd ym mis Mehefin, taith ble derbyniodd King anaf i'w wddf yn y gem ganol wythnos yn erbyn Y Chiefs. Bydd y ddau chwaraewr yn defnyddio'r cyfnod nesaf yma, cyn dechrau'r tymor i hyforddi a dod yn ôl i ffitrwydd.

"Mae Dan yn gwella'n dda wedi'i lawdriniaeth i ail-adeiladu gewynnau ei ysgwydd a ddifrodwyd yn y gêm yn erbyn Lloegr. Mae hefyd wedi anafu llinyn y gar yn yr un gêm," meddai Chris Towers, Rheolwr Perfformiad Meddygol y Gweilch.

"Mae wedi gwella'n dda o'r ddau anaf, ond mae gwaith i'w wneud eto ar ei ffitrwydd. Byddwn yn edrych ar osod mwy o her yn ystod y cyfnod nesa yma gyda'r bwriad o allu cadarnhau dyddiad dychwelyd i'r chwarae yn ystod yr wythnosau nesaf .

"Mae James yn gwella o anaf i'w wddf dderbyniodd yn Seland Newydd. Mae'n datblygu'n dda, ond byddwn yn parhau i arsylwi ei adferiad a'i gynnydd dros yr wythnosau nesaf cyn y byddwn mewn sefyllfa i ragweld yn hyderus pryd bydd ar gael ar gyfer y broses dethol. "

Bydd cic gyntaf y tymor Guinness PRO12 i'r Gweilch yn Stadiwm Liberty yn erbyn Zebre ar 2il Medi, ond cyn hynny bydd eu hymgyrch cyn-gystadleuol yn cychwyn gyda gemau cyfeillgar yn erbyn Teigrod Caerlyr (cartref ar 12 Awst ac i ffwrdd ar 26 Awst) a Gwlad Belg ar 19 Awst.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?