S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Rygbi

McCusker yn dychwelyd i Gymru

McCusker

Mae Rob McCusker, cyn chwaraewr rhyngwladol yn y rheng ol, yn dychwelyd i Gymru er mwyn cynrychioli'r Gweilch. Enillodd ei gap olaf dros Gymru (y chweched) yn erbyn Japan yn 2013 ac ar ol fod yn gapten y Scarlets fe chwaraeodd i Wyddelod Llundain tymor diwetha ym Mhencampwriaeth Aviva a Chwpan Her Ewrop. Pan gollodd yr Alltudion eu lle yn y Bencampwriaeth fe gafodd ei hudo'n wreiddiol i Cwins Caerfyrddin ond fe dderbyniodd y gwr trideg mlwydd oed y gwahoddiad gan y Gweilch i'w helpu ar ddechrau'r tymor newydd gan fod nifer o anfiadau wedi effeithio'u chwaraewyr yn y rheng ol.

Mae tymor y Gweilch yn cychwyn yn Stadiwm Liberty gyda gem baratoadol nos Wener yn erbyn Teigrod Caerlyr ac fe ymunodd McCusker a'i gyd-chwaraewyr newydd fore Mawrth.

Mae Sam Underhill eisoes wedi derbyn llawdriniaeth i'w ysgwydd ac mae hynny'n golygu na fydd e ar gael am bedwar mis. Mae nifer o chwaraewyr eraill y clwb yn gwella o gyfres o anfiadau sy'n golygu nad ydyn nhw'n barod i chwarae am rhai wythnosau eraill o leia.

Dywedodd prif hyfforddwr y Gweilch Steve Tandy " Mae'n gyfnod prysur gyda'r gem yn erbyn Caerlyr a gwersyll ymarfer yng Ngwlad Belg lle byddwn ni'n chwarae yn erbyn tim cenedlaethol Belg felly roedd angen help yn ystod y cyfnod yma. Diolch i'r drefn roedd chwaraewr o brofiad a gallu Rob ar gael wrth i n i baratoi at ein gem gyntaf yn y Pro 12 yn erbyn Zebra ym mis Medi. Mae e'n nabod rhan fwya'r garfan ac 'ryn ni'n gwerthfawrogi ei gymeriad a'i allu i wneud yr hyn sydd ei angen".

Fe anwyd McCusker yn Wrecsam ac fe dreuliodd 11 mlynedd gyda'r Scarlets gan chwarae 133 o gemau iddynt a sgorio 6 chais. Roedd e'n gapten rheng 2102 a 2014 gan ennill ei gap cyntad dros Gymru yn erbyn De Affrica yn 2010.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?