S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Rygbi

Jenkins yn barod i frwydro am ei le

Mae blaenasgellwr y Gleision Ellis Jenkins yn edrych mlaen at y sialens o gystadlu am le nid yn unig yn nhim y rhanbarth ond hefyd yng ngharfan Cymru yn ystod y tymor newydd.

Roedd y chwaraewr 23 oed ymhlith ser y Gleision tymor diwetha ac fe goronwyd ei dymor wrth iddo ennill ei gap cyntaf yn erbyn Pencampwyr y Byd yn Seland Newydd dros yr haf. Ar ol cael blas o'r llwyfan rhyngwladol mae e nawr yn awyddus i barhau ei yrfa ar y lefel uchaf ac yn gobeithio cael ei ddewis yng ngharfan Warren Gatland ar gyfer Cyfres yr Hydref yn Nhachwedd.

"Er bod llynedd wedi bod yn gam ymlaen, rwy'n teimlo bod angen imi gynyddu'r momentwm eto. Nawr bod gen i syniad ynglyn a'r gem rhyngwladol, rwy'n sylweddoli bod rhaid cynnal y safon a gwella gyda'r Gleision yn gyntaf cyn ystyried y lefel uwch. Dyna yw nod pawb yng Nghymru dwi'n meddwl ac mae nhw'n dweud celwydd os nad ydyn nhw'n cyfadde hynny."

Fe chwaraeodd rhan ym mhob un o'r dair gem brawf yn erbyn y Pencampwyr ac roedd hynny o ganlyniad i'r gystadleuaeth anhygoel syd yno am lefydd yn rheng ol y Gleision meddai, ac eleni bydd Sam Warburton, Josh Navidi a wyneb newydd gyda'r gleision, Nick williams i gyd yn cystadlu am eu llefydd.

"Ar ol disgwyl i gael fy nghyfle y tu ol i Sam a Josh, roedd y frwydr i fod yn rhan o'r tim yn un anodd. Dwi yma i chwarae yn y tim nid i fod yn rhan o'r garfan yn unig. Dwi wedi dweud wrth danny Wilson yr hyfforddwr mai'r chwaraewr gorau sy'n haeddu ei le yn y tim ac mae e'n cytuno. Bydd y tri ohonom yn cystadlu am le yn y rheng ol – falle gyda'n gilydd ond mae'n siwr o fod o fudd i'r tim yn y pendraw."

Mae'r Gleision yn gobeithio cael gwell hwyl yn eu gemau agoriadol na'u dechreuad gwael y tymor diwethaf pan gollon nhw chwech o'u saith gem gyntaf. Fe gawson nhw ddiweddglo da i'r tymor ond bydd angen gwelliant sylweddol er mwyn cystadlu am le ymhlith y chwech ucha a chyfle i chwarae ym mhrif gystadleuaeth Ewrop y tymor nesa.

"Bydd rhaid i ni wella ar ein perfformiadau'r tymor diwethaf. Dydyn ni ddim wedi trafod y peth mewn gwirionedd, ond fy safbwynt i yw bod rhaid i ni herio'r gorau'n gyson nid dim ond curo'r goreuon yn achlysurol. Fe sgorion ni bwyntiau drwy'r tymor ond fe ildiwyd pwyntiau di-angen hefyd felly gwella'n sustemau amddiffynol yw un o'r pethau bydd rhaid i ni wneud."

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?