S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Rygbi

Taylor yn ymuno a'r Scarlets

Mae Mark Taylor cyn ganolwr Cymru a'r Llewod a chyn rheolwr tim dan 20 Cymru wedi ymuno a thim rheoli'r Scarlets.

Bydd Taylor sy'n 43 oed, yn ymgymryd a dyletswyddau Garan Evans sy'n derbyn swydd newydd fel Rheolwr Masnach Lanelli ar ol treulio 8 mlynedd gyda'r rhanbarth. Dywedodd Jon Daniels, Rheolwr Cyffredinol Rygbi'r Scarlets, "Bydd y rol newydd yn cynnig her i Garan ac rwy'n siwr y bydd e'n llwyddo yn y swydd hon hefyd ac yn cyfrannu'n egniol at rygbi'r ardal yn yr un modd a'i ymdrechion dros y degawdau diwetha fel chwaraewr ac fel gweinyddwr."

Chwaraeodd Taylor i'r Scarlets rhwng 2003 a 2005 ac yna fe gynorthwyodd tim dan 20 Cymru i ennill eu Camp Lawn gyntaf tymor diwethaf. Cyn hynny, bu'n helpu datblygu talentau ifanc y garfan dan 18 ac yn ol Daniels, "Mae Mark yn rheolwr profiadol ac wedi profi ei allu o fewn strwythur URC am ddegawd. Mae e wedi cynrychioli'r rhanbarth, yn magu ei deulu yma ac yn deall gwerthoedd y Scarlets."

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?