S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Rygbi

Barn Gwyn Jones

Bydd y Dreigiau yn anelu am ond eu trydedd fuddugoliaeth o'r tymor wrth iddyn nhw groesawu Munster i Rodney Parade ddydd Sul yma. Fe fydd y gêm yn cael ei darlledu'n fyw ar Clwb Rygbi ar S4C am 2.15pm, cic gyntaf am 2.30pm.

Hefyd y penwythnos yma, mae'r Scarlets a'r Gweilch yn teithio i'r Eidal i herio Treviso a Zebre, tra bydd y Gleision yn wynebu'r tîm sydd ar frig y tabl, Connacht, ym Mharc yr Arfau.

Dyma ragolwg cyn-gapten Cymru a sylwebydd Clwb Rygbi, Gwyn Jones, am gemau'r rhanbarthau'r penwythnos hwn.

Dywedodd Gwyn: "Mae'n gêm bwysig o safbwynt y Dreigiau. Mi oedden nhw'n gwneud yn dda mewn gemau cartref y tymor diwethaf, ac mae'n rhaid gwneud hynny eto'r tymor hwn."Maen nhw'n dîm sydd angen anelu am saith neu wyth buddugoliaeth mewn tymor, ond dim ond dau sydd ganddyn nhw ar hyn o bryd. Maen nhw'n datblygu, ond rhywbryd mae'n rhaid i ni weld y datblygiad."Mae'n anodd oherwydd maen nhw'n methu eu chwaraewyr creadigol, gyda Hallam Amos a Tyler Morgan allan, a ti ddim yn gwybod pwy sydd yno i sgorio'r ceisiau."Mae Munster yn drydydd yn y tabl ac mi fydden nhw'n hyderus y gallan nhw ennill, ond dyn nhw ddim hanner y tîm yr oedden nhw."Dw i'n gobeithio gweld gêm agos. Munster yw'r ffefrynnau, ond dwi'n gweld y gêm yn cael ei hennill o un sgôr."

"Oddi cartref yn Nhreviso yw'r fath o gêm gallai'r Scarlets golli. Mi oedden nhw'n sigledig yn erbyn Zebre wythnos diwethaf, ac mi fethon nhw gael pwynt bonws, felly mi fydden nhw eisiau cael un y tro hwn."Os yw'r tywydd yn braf, bydd y Scarlets yn chwarae'r bêl yn sydyn, ac fe ddylen nhw greu ceisiau."Dw i'n ffyddiog y bydden nhw'n ennill y gêm, ond mae'n rhaid bod yn ofalus wrth chwarae Treviso.

"Mae yna wir brawf yn wynebu'r Gleision y penwythnos hwn. Maen nhw wedi colli dau rif saith da iawn, gyda Sam Warburton ac Ellis Jenkins allan."Mae'n ddiddorol gweld Jarrod Evans yn dechrau fel maswr. Falle y bydd Patchell yn gweld hyn fel cyfle i symud, gyda'r sôn ei fod e'n mynd i'r Scarlets."Mae'n broses hir i Danny Wilson, ond dim ond un gêm maen nhw wedi ennill hyd yn hyn. Fe fyddai ennill yn eu rhoi nhw ar ben ffordd."Mae Connacht yn chwarae'n dda ar hyn o bryd. Enillon nhw yn erbyn Munster wythnos diwethaf ac maen nhw'n llawn hyder ar frig y tabl."Dw i'n credu bydd hi'n agos iawn, ond Connacht fydd yn ennill.

"Fe fydd y Gweilch yn ennill yn gyfforddus yn Zebre. Mae pwyntiau bonws wedi bod yn anodd i'r Gweilch, felly mi fydden nhw'n targedu un y penwythnos hwn."Ar hyn o bryd, y drafferth gyda'r Gweilch ydi creu, gyda'r canolwyr wedi'u hanafu."Ar ôl dechrau gwael, maen nhw'n ail-adeiladu ac maen nhw'n gwella. Mae'r momentwm wedi troi."Ond ni all Alun Wyn Jones a Justin Tipuric fod ar eu gorau ym mhob gêm, felly mae'n amser i weddill y garfan i rannu'r baich."

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?