S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Rygbi

HOWLEY: POLISI DEWIS YN ALLWEDDOL I'R DYFODOL

Pan fydd yn cyhoeddi ei garfan i'r Gyfres Under Armour ar Hydref 18fed, bydd y Prif Hyfforddwr Rob Howley hefyd yn cyhoeddi y tri dewis allanol ('wildcard') ar gyfer yr ymgyrch.

Fel rhan o'r Polisi Dethol Chwaraewyr Pofiadol, caniateir tri dewis ar gyfer chwaraewyr sy'n chwarae y tu allan i Gymru ac sy'n cael eu 'cipio' gan y polisi.

Tra'n eistedd i lawr gyda'r cyfryngau am y tro cyntaf ers ei benodi, pwysleisiodd Howley bwysigrwydd y polisi, nid yn unig ar gyfer y presennol, ond hefyd ar gyfer dyfodol y gêm yng Nghymru.

"Mae'r polisi dethol yn ymwneud â gofalu am ein cynllun olyniaeth, gan wneud yn siŵr bod ein chwaraewyr gorau eisiau aros a chwarae eu rygbi yng Nghymru," meddai Howley.

"Mae pobl eisiau gwylio ein chwaraewyr gorau yn chwarae yng Nghymru, a ganddom ni mae'r cyfrifoldeb o sicrhâu bod pob chwarewr yn cael chware teg.

"Mae yna adegau pan fydd chwaraewyr yn elwa wrth fynd oddi cartref a rhaid i ni fod yn ymwybodol o hynny.

"Dwi'n ymwybodol i mi fy hunan elwa wrth fynd at Wasps a phan fydd chwaraewyr yn gwneud penderfyniad 'hunanol' i fynd, bydd ein chwaraewyr allanol ar gael i ni.

" Mae chwaraewyr yn ymwybodol o'r risg wrth chwarae y tu allan i Gymru ac yn gwybod y bydd angen "caniatad allanol" arnynt er mwyn cynrychioli eu gwlad.

"Rydym yn awyddus i greu amgylchedd lle mae'r mwyafrif o'r chwaraewyr eisiau aros, ac rydym am wneud yn siŵr bod dyfodol ser fel Sam Davies, Harrison Keddie a Keelan Giles yn aros yma yng Nghymru.

"Bydd ganddom benderfyniadau anodd i'w gwneud, ac mae'r chwaraewyr yn ymwybodol o hynny, ond rhaid i ni feddwl am ddyfodol y gêm."

Ers cyflwyno'r Cytundebl Cenedlaethol Deuol (NDC) mae sêr rhyngwladol fel Jonathan Davies, Dan Lydiate a Bradley Davies wedi dychwelyd i Gymru, ac ar yr un pryd mae llu o chwaraewyr rhyngwladol presennol wedi ymrwymo eu dyfodol i aros gyda'u Rhanbarth.

Mae tri dewis 'allanol' ar gael i'r Prif Hyfforddwr ar gyfer pob ymgyrch yn ystod tymor 2016/17, gyda saith o chwaraewyr yn gymwys o dan delerau'r polisi ar gyfer y tymor cyfredol.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?