S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Rygbi

YMDDIRIEDOLAETH Y STADIWM YN CYRRAEDD CARREG FILLTIR O £5M

Cyhoeddodd Yr Ymddiriedolaeth Elusennol (MSCT) bod cefnogwyr rygbi yn Stadiwm Principality wedi helpu i greu mwy na phum miliwn o bunnoedd i gymunedau yng Nghymru.

Sefydlwyd yr Ymddiriedolaeth, sy'n derbyn ardoll ar bob tocyn a brynir ar gyfer digwyddiadau yn Stadiwm Principality, pan agorodd y lleoliad yn 1999. Ers hynny mae MSCT wedi cefnogi 1040 prosiect unigol sy'n cwmpasu chwaraeon, y celfyddydau, y gymuned a'r amgylchedd.

Datgelwyd y swm o bum miliwn yn ystod digwyddiad dathlu yn Lolfa fawreddog y Llywydd yng nghartref rygbi Cymru, ddydd Mercher 12fed Hydref.

Cyhoeddwyd mai 'Gweilch yn y Gymuned' oedd yr olaf i dderbyn arian o'r gronfa. Byddant yn derbyn £ 5000 i gefnogi Prosiect Rygbi Cadair Olwyn y Gweilch Iau a Ieuenctid, a bydd yr arian yn eu galluogi i brynu cadeiriau olwyn pwrpasol ar gyfer chwarae rygbi.

Ymysg y prosiectau eraill i dderbyn arian MSCT mae 'Superkids Gogledd Cymru', ' Gymnasteg Castell-nedd Afan ', 'Plant y Cymoedd', 'Ailgylchu Cymunedol Homemakers' a 'Ballet Cymru'.

Roedd y Cadeirydd Gareth Davies a'r Prif Weithredwr Martyn Phillips ymhlith y rhai oedd yn bresennol yn cynrychioli Undeb Rygbi Cymru, sy'n berchen ac sy'n rhedeg y stadiwm.

Dywedodd Mr Davies: "Mae'r cyllid yma'n sicrhau bod ymwelwyr i Stadiwm Principality yn parhau i gael effaith bositif ar gymunedau teilwng o bob cefndir ledled Cymru.

"Cefnogwyr rygbi yw'r mwyafrif sydd wedi mynychu digwyddiadau mawr yn y lleoliad ers iddi agor yn 1999, gyda rhyw 550,000 yn llifo drwy'r giatiau dros gyfnod o chwe wythnos pan gynhaliwyd wyth gêm yno yn ystod Cwpan Rygbi'r Byd, yr adeg yma llynedd.

"Mae'r garreg filltir yma heddiw yn deyrnged i'r 'teulu rygbi', yn ogystal ag i holl ymwelwyr y stadiwm, ac mae'n arbennig o addas i weld ein cyfeillion 'Gweilch yn y Gymuned' yn dathlu."

Dywedodd Paul Whapham, Rheolwr Sylfaen, Gweilch yn y Gymuned: "Mae'n anrhydedd i fod y sawl sy'n derbyn y cymorthdal holl bwysig hwn a fydd yn ein galluogi i ddarparu mwy o gyfleoedd i bobl ifanc anabl i roi cynnig ar chwaraeon."

Mae Stadiwm Principality yn dal hyd at 74,500 ac yn croesawu tua 1.3 miliwn o ymwelwyr i Gaerdydd bob blwyddyn. Mae'r digwyddiadau a gynhelir yno'n rhoi hwb blynyddol o tua £ 130milliwn i'r economi leol ac yn helpu i gynnal mwy na 2,500 o swyddi yng Nghymru.

Talodd Gadeirydd MSCT Russell Goodway deyrnged i'r lleoliad, i'r ymwelwyr ac i'r gwirfoddolwyr ledled Cymru sy'n gwneud cymorthdaliadau MSCT yn bosibl.

"Mae pob un o'r sefydliadau yr ydym yn cefnogi naill ai'n elusennau neu grwpiau dielw sydd hefyd yn dibynnu ar gefnogaeth y cyhoedd, ac mae miloedd o wirfoddolwyr yn rhoi o'u hamser i wella iechyd a lles cymunedau. Yn yr un modd, mae cefnogaeth ein Ymddiriedolwyr gwych yn hanfodol. Rwy'n falch ac yn ddiolchgar i bawb a oedd yn rhan o'r ymgyrch yma ar ran MSCT. "

Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol Undeb Rygbi Cymru Phillips: "Stadiwm Principality yw'r em yng nghalon rygbi Cymru, sy'n rhoi llwyfan i'r garfan genedlaethol ac yn helpu i ddatblygu rygbi ar lawr gwlad, gyda'r holl elw a gynhyrchir yn cael ei ail-fuddsoddi yn ôl i mewn i'r gêm. Mae cyllid yr Ymddiriedolaeth yn adnodd gwych sy'n golygu bod gwerthiant tocynnau yn ymestyn y tu hwnt i fuddsoddi mewn rygbi. Mae'r rhai sy'n prynu tocynnau yn helpu i roi hwb i'r economi leol oherwydd lleoliad unigryw y stadiwm reit yng nghanol y ddians.

"Mae Undeb Rygbi Cymru yn denu amrywiaeth eang o ymwelwyr o gartref a thramor, ac yr un fydd y stori'r tymor hwn. Bydd Cymru'n cychwyn y Gyfres Under Armour yn erbyn Awstralia fis nesaf ac yna'n croesawu Lloegr ac Iwerddon yn ystod y 6 Gwlad yn y flwyddyn newydd. Yna bydd digwyddiad chwaraeon unigol mwyaf y byd, Ffeinal Cynghrair y Pencampwyr 2017 yn dod i'r ddinas, yna dau gyngerdd Coldplay. "
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?