S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Rygbi

WYNEBAU NEWYDD DAVIES A THORNTON YNG NGHARFAN CYMRU

Mae Prif Hyfforddwr Cymru Rob Howley wedi enwi carfan 36-dyn ar gyfer y gyfres Under Armour sy'n cynnwys dau chwaraewr sydd heb eto ennill cap, y ddau o'r Gweilch, Sam Davies a Rory Thornton.

Mae'r garfan yn cynnwys saith chwaraewr arall nad oeddynt yn ymddangos dros Gymru ar eu taith Haf i Seland Newydd, gan gynnwys y triawd sy'n dychwelyd o anaf, Alex Cuthbert, Leigh Halfpenny a Dan Lydiate.

Bydd y ddau brop o'r Gleision Rhys Gill a Scott Andrews hefyd yn dychwelyd i'r garfan ynghyd â'r prop pen rhydd o'r Gweilch, Nicky Smith a Rhif 8 Dan Baker.

Yn y pac mae Gethin Jenkins, Tomas Francis a Samson Lee yn ymuno â'r tri prop a enwyd eisoes gyda Scott Baldwin, Kristian Dacey a Ken Owens yn cwblhau'r fintai yn y rheng-flaen.

Yn ymuno â Thornton fydd ei gyd- chwaraewyr rhanbarthol Bradley Davies ac Alun Wyn Jones, ynghyd â Luke Charteris a Jake Ball.

Y Capten yw Sam Warburton, gyda James King a Justin Tipuric, Ross Moriarty a Taulupe Faletau yn cwblhau'r blaenwyr.

Gareth Davies, Rhys Webb a Lloyd Williams sy'n cael eu henwi fel y tri mewnwr yn y garfan gyda Gareth Anscome a Dan Biggar yn ymuno hefyd. Mae'r canolwyr yn cynnwys, Jonathan Davies, Tyler Morgan, Jamie Roberts a Scott Williams. Bydd Hallam Amos, George North a Liam Williams yn cysylltu â Cuthbert a Halfpenny yn y cefn.

"Mae'n wych rhoi cyfle i chwaraewyr sydd yn chwarae yn dda ar gyfer eu clybiau gyda pobl fel Nicky Smith, Rhys Gill, Rory Thornton a Sam Davies yn dod i mewn i'r garfan. Yn ogystal, mae'n wych i allu croesawu 'nôl chwaraewyr profiadol fel Dan Lydiate, Alex Cuthbert a Leigh Halfpenny."

"Mae Taulupe yn parhau i wella ac mae wedi bod yn gweithio'n agos gyda Caerfaddon. Rydym yn gobeithio y bydd ar gael ar gyfer rhan ola'r ymgyrch, ond bydd ei brofiad yn hanfodol bwysig ymysg y garfan.

"Rydym yn gwybod rhaid i ni ddechrau'r ymgyrch yn gref gan geisio efelychu cywirdeb a dwyster ein gwrthwynebwyr. Mae angen i ni adeiladu ar yr hyn a wnaethom yn Seland Newydd a gwella ar ein perfformiad ar gyfer y gêm agoriadol yn erbyn Awstralia."

Bydd y garfan yn cwrdd i ddechrau paratoi ar gyfer yr ymgyrch ddydd Llun, Hydref 24 gan wynebu Awstralia yn eu gêm agoriadol ar Dachwedd 5ed. Yr Ariannin yw'r gwrthwynebwyr nesaf yn Stadiwm Principality cyn i Japan gyrraedd Caerdydd. Daw'r ymgyrch i ben yn erbyn De Affrica ar 26ain Tachwedd.

Cyfres Under Armour 2016 - Cymru yn erbyn Awstralia - dydd Sadwrn 5 Tachwedd (Cic Gyntaf 14:30): £ 60 (£ 30) Cymru yn erbyn Yr Ariannin - dydd Sadwrn 12 Tachwedd (Cic Gyntaf 17:30): £ 50 / £ 40 (£ 20) / £ 30 / £ 20 Cymru yn erbyn Japan - dydd Sadwrn 19 Tachwedd (Cic Gyntaf 02:30): £ 35 / £ 20 (£ 10) Cymru yn erbyn De Affrica - Dydd Sadwrn 26 Tachwedd (Cic Gyntaf 05:30): £ 70 , £ 60 (£ 30) Tocynnau ar gael nawr ar www.wru.wales/tickets

CARFAN CYMRU AR GYFER CYFRES UNDER ARMOUR 2016

Prop

Scott Andrews (Gleision) (12 Cap)

Tomas Francis (Exeter Chiefs) (14 Cap)

Rhys Gill (Gleision) (6 Cap)

Gethin Jenkins (Gleision) (126 Cap)

Samson Lee (Scarlets) (28 Cap)

Nicky Smith (Gweilch) (3 Cap)

Bachwr

Scott Baldwin (Y Gweilch) (24 Cap)

Kristian Dacey (Gleision) (3 Cap)

Ken Owens(Scarlets) (42 Cap)

Ail Reng

Jake Ball (Scarlets) (20 Cap)

Luke Charteris (Rygbi Caerfaddon) (68 Cap)

Bradley Davies (Gweilch) (56 Cap)

Alun Wyn Jones (Y Gweilch) (102 Cap)

Rory Thornton (Y Gweilch) (heb ennill cap)

Rheng ol

Dan Baker (Y Gweilch) (3 Cap)

Taulupe Faletau * (Rygbi Caerfaddon Rygbi) (61 Cap)

James King (Gweilch) (8 Cap)

Dan Lydiate (Y Gweilch) (57 Cap)

Ross Moriarty (Caerloyw) (9 Cap)

Justin Tipuric (Gweilch) (43 Cap)

Sam Warburton (CAPT) (Gleision) (67 Cap)

Mewnwr

Gareth Davies (Scarlets) (17 Cap)

Rhys Webb (Gweilch) (22 Cap)

Lloyd Williams (Gleision) (27 Cap)

Maswr

Gareth Anscombe (Gleision) (8 Cap)

Dan Biggar (Gweilch) (48 Cap)

Sam Davies (Gweilch) (heb ennill cap)

Canolwr

Jonathan Davies (Scarlets) (56 Cap)

Tyler Morgan (Dreigiau Casnewydd Gwent) (3 Cap)

Jamie Roberts * (Harlequins) (83 Cap)

Scott Williams (Scarlets) (38 Cap)

Asgellwr/Cefnwr

Hallam Amos (Dreigiau Casnewydd Gwent) (10 Cap)

Alex Cuthbert (Gleision Caerdydd) (42 Cap)

Leigh Halfpenny (Toulon) (62 Cap)

George North * (Seintiau Northampton) (62 Cap)

Liam Williams (Scarlets) (35 Cap)

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?