S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Rygbi

OWENS YN YMESTYN EI RECORD YN AWSTRALIA

Bydd Nigel Owens yn ymestyn ei record dyfarnu pan fydd yn gofalu am y gêm olaf yng Nghwpan Bledisloe rhwng Seland Newydd ac Awstralia yn Auckland y penwythnos hwn.

Chwalodd y swyddog Cymraeg hen record Jonathan Kaplan o Dde Affrica pan ddyfarnodd ei gêm Brawf rhif 71 rhwng Fiji a Tonga yn Suva ym mis Mehefin. Yna symudodd ymlaen i Sydney ar gyfer y Prawf olaf rhwng Awstralia a Lloegr.

Parhaodd ei daith o amgylch y byd yn ystod y Bencampwriaeth Rygbi, wrth iddo ddychwelyd i Awstralia ar gyfer y gêm rhwng y Wallabies a'r Ariannin yn Brisbane, a bydd gêm y penwythnos hwn ym Mharc Eden, gyda'r Crysau Duon yn chwilio am eu deunawfed buddugoliaeth ryngwladol yn olynol, gan fynd a'u cyfanswm mewn gemau Prawf i 74.

Bydd Owens yn cyrraedd 75 o gemau y mis nesaf pan fydd yn dyfarnu ar gem Brawf yr Hydref rhwng yr Eidal a Seland Newydd yn Stadio Olimpico, Rhufain ar 12fed Tachwedd. A thra bod Owens yn Awstralia, bydd dyfarnwyr eraill o Gymru'n brysur yn Ewrop gydag ail rownd Cwpan y Pencampwyr a'r Cwpan Her.

Bydd panel cwbwl Gymraeg yn Stadiwm Bell AJ nos Wener wrth i Sale groesawu RC Toulon yng Ngrwp 3 Cwpan Y Pencampwyr. Bydd Ben Whitehouse yn ennill ei ail gap yng Nghwpan y Pencampwyr ar ôl gwneud ei ymddangosiad cyntaf y tymor diwethaf yn yr ornest honno rhwng Teigrod Caerlyr a Benetton Trevsio yn Welford Road.

Mae'n debygol bydd Whitehouse yn cael ei ddewis i ddyfarnu ar y gem ryngwladol rhwng dau o'r timau ddaeth i rownd derfynol Cwpan Rygbi'r Byd 2015, Romania ac Uruguay. Yn Bucharest y mis nesaf fydd y gem honno a ef hefyd oedd yn rheoli gem agoriadol Cwpan y Pencampwyr yn Harlequins yr wythnos diwethaf.

Bydd yn cael ei gynorthwyo gan Sean Brickell a Chris Williams, gyda Jonathan Mason yn gweithredu fel y TMO. Ian Davies, sydd hefyd ar ddyletswydd rhyngwladol y mis nesaf, fydd yn gyfrifol am ei bedwaredd gêm yng Nghwpan y Pencampwyr pan fydd Castres Olympique yn croesawu Seintiau Northampton.

Bydd yn cael ei gynorthwyo gan Simon Rees gyda Gareth Simmonds fel ei TMO. Bydd y cyn ddyfarnwr rhyngwladol Les Peard yn gweithredu fel y TMO ar gyfer y gêm Cwpan Her yn Kingsholm rhwng Caerloyw a Benetton Treviso.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?