S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Rygbi

YR ALLTUDION YN CRYFHAU’R TIM SAITH BOB OCHR

Wrth i Gymru gyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth saith bob ochr Dubai wythnos yn ol, roedd Mathew Owen – Cymro alltud o Lundain – yn cynrychioli'r Cymry am y tro cyntaf ac yn rhan allweddol o'r llwyddiant cynnar.

Ganwyd a magwyd Owen yn Peckham yn Llundain ond roedd ei fam yn enedigol o Sir Fon. Ar ol chwarae ar lefel gymdeithasol am rhai blynyddoedd fe ymunodd Owen a chynllun yr Alltudion dan adain Undeb rygbi Cymru dair blynedd yn ol,

"Doeddwn id dim yn disgwyl unrhyw ddatblygiad sydyn" meddai, "ond o ganlyniad i'r cynllun symudaid i Goleg Llanymddyfri a derbyn hyfforddiant gyda'r Scarlets".

Mae Owen yn asgellwr chwe throedfedd pum modfedd o daldra ac oherwydd ei gyflymdra a'i bwer, penderfynwyd mai'r gem saith bob ochr oedd y llwybr i wella'i ddatblygiad.

Dywedodd "Mae'n rhyfedd meddwl mai chwarae ar barciau cyhoeddus oeddwn i dri thymor yn ol, a nawr mae miliynnau o bobl yn gwylio'r gystadleuaeth saith bob ochr....a dwi'n rhan ohoni. Cynllun yr Alltudion sydd wedi body n gyfrifol am hyn ac fy nghyngor i unrhyw Gymro sy'n byw yn y ddinas fawr yw ceisio manteisio ar y cyfleon sydd yno.

Yn ol Gareth Davies, Swyddog Cenedlaethol yr Alltudion

"Mae Mathew yn lysgennad ardderchog i'r cynllun sy gennym yn Llundain. Mae e'n frwdfrydig, yn benderfynol ac mae ganddo'r agwedd iawn i lwyddo. Mae e'n hnaeddu eu le o fewn carfan siath bob ochr Cymru ac mae e'n dyst i lwyddiant cynllun yr Alltudion."

Ar ole u llwyddiant yn Dubai, bydd cymru'n chwarae yn Cape Town nesa yn yr un grwp a'r Alban, Uganda a Samoa.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?