S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Rygbi

JENKINS ALLAN AM DRI MIS

Mae Gleision Caerdydd wedi cadarnhau bod eu capten Gethin Jenkins wedi derbyn llawdriniaeth i'w ysgwydd sy'n golygu na fydd e'n gallu chwarae i'r rhanbarth na Chymru am dri mis.

Mae Jenkins sy'n 36 oed wedi chwarae dros Gymru mewn 129 o gemau, ond ar ol anafu ei ysgwydd yn erbyn Ulster wythnos yn ol' doedd dim dewis ond derbyn y cyngor meddygol,sy'n golygu hefyd nad oes posibilrwydd iddo fod yn holliach erbyn y gem gyntaf ym Mhencampwriaeth y 6 Gwlad ym mis Chwefror yn erbyn yr Eidal.

Ar ol y gem honno mae Cymru'n wynebu Lloegr yng Nghaerdydd cyn teithio i Gaeredin i wynebu'r Alban. Y Gwyddelod bydd nesa i dim Rob Howley yn Stadiwm Principality cyn i'r Bencampwriaeth ddod i ben ym Mharis ar Fawrth 18.

Dywedodd hyfforddwr y Gleision Danny Wilson "Mae Gethin wedi rhwygo cyhyr yn ei ysgwydd ond er mai 3 mis yw'r cyfnod sydd ei angen i wella o'r llawdriniaeth, bydd e'n brwydro i ddychwelyd cyn gynted a bo modd - dyna'r math o gymeriad yw e. Mae e'n ergyd i'r Gleision ac i Gymru am ei fod e' chwarae mor dda ac mae ganddo'r agwedd i aros ar y brig am sbel eto."

Jenkins oedd capten Cymru pan gurwyd De Affrica ym mis Tachwedd ac roedd e'n gobeithio ymestyn ei yrfa rhyngwladol sydd wedi para am 14 o flynyddoedd mewn i'r flwyddyn newydd. Gan gynnwys ei ymddangosiadau i'r Llewod, mae ganddo 134 o gapiau - record i brop.

Yn ffodus i Gymru mae prop pen-rhydd y Scarlets, Rob Evans, wedi gwella o anaf i'w arddwrn ac mae e'n holliach erbyn hyn. Y ddau brop arall oedd yn rhan o garfan Cymru yn ystod cyfres yr Hydref oedd Nicky Smith o'r Gweilch a Rhys Gill o'r Gleision.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?