S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Rygbi

TIM HYFFORDDI'R DAITH HAF, 2017

Yn ymuno a Robin McBryde, hyfforddwr carfan Cymru bydd yn teithio i Ynysoedd y Mor Tawel yn ystod haf 2017, mae prif hyfforddwr y Gleision Danny Wilson, hyffforddwr ymosod y Gleision Matt Sherratt ynghyd a hyfforddwr olwyr y Scarlets, Stephen Jones.

Mae penodi tri hyfforddwr o'r Rhanbarthau ar gyfer y daith sy'n cynnwys dwy gem brawf, yn dangos y berthynas agos sydd wedi ei meithrin rhwng y Rhanbarthau a'r Undeb. Yn ol Prif Weithredwr URC, Martyn Phillips, bydd y penderfyniad yma'n fanteisiol ar lefel genedlaethol ac yn natblygiad y sustem hyfforddi rhanbarthol,

"Mae ganddom strategaeth sy'n ceisio cryfhau ein strwythur hyfforddi ar bob lefel" meddai, " a'r bwriad nid yn unig yw i wella a datblygu unigolion ond hefyd i ddod a hyfforddwyr allweddol yn agosach o ran eu dulliau er mwyn cryfhau ein gem yn gyffredinol".

Daeth Wilson yn ol i Gaerdydd ar ol cyfnod gyda chlwb Bryste a chyn hynny gyda'r Scarlets a'r Dreigiau a thim dan 20 Cymru ddaeth yn drydydd ym Mhencampwriaeth dan 20 y Byd yn 2012.

Roedd Sherratt yn aelod o dim hyfforddi Cymru yn ystod Cyfres Under Armour yr Hydref pan enillodd y Cochion 3 o'u 4 gem.

Daeth Stepehen Jones yn ol i Gymru at y Scarlets yn 2015 ar ol cychwyn ei yrfa hyfforddi gyda'r Wasps yn 2013. Fe enillodd 104 o gapiau dros Gymru.

Wrth groesawi'r 3, dywedodd McBryde, " Byddwn ni'n wynebu dwy wlad sy'n angerddol am y gem a bydd y daith haf yn her i ni gyd .... Ond yn gyfle arbennig i ni ddatblygu hefyd"

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?