S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Rygbi

Andrew Coombs yn edrych ymlaen at y 6 Gwlad.

Os bydd Cymru yn fuddugol yn eu gêm agoriadol ym Mhencampwriaeth y 6 Gwlad RBS 2016 oddi cartref yn Iwerddon, fe ddylai tîm Warren Gatland fynd yn eu blaen i ennill y gystadleuaeth.

Dyna yw barn aelod diweddaraf tîm Clwb Rygbi Rhyngwladol, blaenwr ail reng y Dreigiau a Chymru, Andrew Coombs. Cawsom sgwrs gyda'r clo ryngwladol sy'n hanu o Fynwent-y-Crynwyr yn ddiweddar, i'w holi am y Chwe Gwlad, ei rôl newydd fel dadansoddwr Clwb Rygbi a phwy fydd sêr rygbi Cymru yn y dyfodol.

Sut brofiad ydi sefyll ar ochr y cae fel rhan o dîm Clwb Rygbi a’r Clwb Rygbi Rhyngwladol yn hytrach na chwarae arno, Andrew?

Byddai'n well gennyf i fod ar y cae ond mae hyn yn fy nghadw i'n brysur. Dwi'n cael trafferth gyda'r anaf ond dw i wedi mwynhau'r gwaith yma. Mae'n help i'r Dreigiau hefyd achos dwi i'n gwneud lot o ymchwil ac felly dw i'n dod i nabod chwaraewyr a thimau eraill yn well.

Sut wyt ti wedi mwynhau bod yn ddadansoddwr ar y teledu ers cael dy anaf?

Mae hyn yn sialens dda i fi. Mae'n bwysig bod S4C yn darlledu'r holl gemau oherwydd mae angen gweld yr iaith Gymraeg mewn gemau rygbi. Mae lot o'r bois yn hoffi gwylio'r gemau ar S4C, ac mae'n wych ein bod ni'n dangos pob un o gemau Cymru eleni.

Sut wyt ti’n meddwl y bydd Cymru yn gwneud y tro hwn, a pha mor anodd fydd y gêm agoriadol yn Iwerddon?

Dw i'n meddwl y bydd hi'n gystadleuaeth ddiddorol y tro hwn. Dw i'n credu bod Cymru yn ddigon da i ennill y Chwe Gwlad. Mae Iwerddon yn lle anodd i fynd; wnes i chwarae y tro diwethaf aeth Cymru draw yna yn y Chwe Gwlad, ond fe wnaethon ni golli - oedd hi'n gêm galed iawn!

Dw i ddim yn credu bod Iwerddon mor gryf eleni ac mae'n amser da i'w chwarae nhw. Dw i'n meddwl os gallwn ni ennill y gêm honno, byddai'n creu lot o fomentwm a dw i'n meddwl y gallwn ni fynd ymlaen i ennill y bencampwriaeth

Pa chwaraewyr fydd wedi dal sylw Warren Gatland y tymor hwn hyd yma? Ti’n rhagweld unrhyw syrpreisus yn Nulyn?

Mae Tom James yn chwarae yn steil Warren Gatland; mae e'n bwerus ac mae'n gallu croesi'r llinell fantais. Dw i'n siŵr y bydd e'n dechrau'r gêm gyntaf. Mae e wedi bod ar dân i'r Gleision y tymor hwn. Yn y blaenwyr, fydd na ddim llawer o newid. Yn yr ail reng, mae Alun Wyn yn chwarae ar lefel arall, ac mae Luke Charteris wedi bod ar dân y tymor hwn hefyd gyda Racing 92.

Pa gêm wyt ti’n rhagweld bydd yr anoddaf i Gymru eleni?

Y tîm i'w wylio yw Lloegr. Dyw'r hyfforddwr Eddie Jones heb gael llawer o amser ond fydd e eisiau chwarae'n dda a bydd y chwaraewyr yn ceisio creu argraff ar yr hyfforddwr. Bydd y bois eisiau ennill eu lle yn y tîm. Dw i'n meddwl bydd Cymru yn ennill y Chwe Gwlad ond y gêm yn Nhwickenham fydd y gêm anoddaf - mae 'na siawns gallwn ni golli'r gêm yna.

Fe fydd lot o fois Cymru yn ôl ar ôl anafiadau erbyn hynny, ond fydd Lloegr eisiau maeddu ni ar ôl colli i ni yng Nghwpan Rygbi'r Byd.

Pa chwaraewyr ti’n meddwl bydd yn creu argraff i dîm dan Ugain Cymru?

Mae lot o'r bois dan ugain yn dod trwodd yn y Dreigiau ac mae 'na gwpwl o fois yn chwarae'n ardderchog. Mae'r prop Leon Brown yn foi enfawr a dw i'n siŵr bod e'n barod i ddangos i bawb beth mae e'n gallu gwneud, fel gwnaeth Ollie Griffiths y llynedd. Mae'r gystadleuaeth dan ugain yn gyfle gwych i'r chwaraewyr fagu hyder ar y lefel ryngwladol ac mae'r safon yn grêt."

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?