S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Rygbi

Robinson yn disgwyl buddugoliaeth i dîm dan 20 Cymru yn erbyn Yr Alban i gynnal breuddwyd Y Gamp Lawn.

Robinson yn disgwyl buddugoliaeth i dîm dan 20 Cymru yn erbyn Yr Alban i gynnal breuddwyd Y Gamp Lawn.

Mae cyn ganolwr Cymru Jamie Robinson yn meddwl y bydd tîm Dan 20 Cymru yn benderfynol o ddial ar Yr Alban y penwythnos yma ar ôl eu colled yn eu herbyn ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad Dan 20 y llynedd.

Fe fydd Jamie yn ymuno â thîm cyflwyno Clwb Rygbi Rhyngwladol ar gyfer y gêm fydd yn fyw ac yn ecsgliwif ar S4C nos Wener, 12 Chwefror, o 6.20pm ymlaen. Bydd sylwebaeth Saesneg ar gael hefyd ar y botwm coch yn y cynhyrchiad gan BBC Cymru ar S4C.

Fe enillodd yr Albanwyr 36-34 mewn gêm lawn cyffro yn Netherdale y llynedd, ond wedi buddugoliaeth swmpus 35-24 tîm Cymru draw yn Iwerddon y penwythnos diwethaf, mae Robinson yn credu mai Cymru yw'r ffefrynnau i ennill y tro yma. Dywedodd Jamie Robinson: "Fe fydd Cymru yn teimlo'n bositif iawn, fe berfformion nhw'n wych yn erbyn tîm cryf Iwerddon, a chael y gorau o bron iawn pob agwedd o'r gêm. Mae cymaint ohonyn nhw wedi cael profiad yn y Guinness Pro12 ac roedd hynny'n dangos ar y cae. "Cymru sydd yn dechrau fel ffefrynnau yn erbyn Yr Alban, yn sicr. Roedd yna gyd-chwarae da iawn rhwng yr olwyr a'r blaenwyr yn erbyn Iwerddon ac fe wnaethon nhw wella yn ardal y dacl wrth i'r gêm fynd yn ei blaen. Fe gollon nhw lan yn y Borders y llynedd, er eu bod nhw ddim yn haeddu colli. Felly, fe fydden nhw'n benderfynol o faeddu Yr Alban y tro hwn." Gydag un fuddugoliaeth eisoes, mae Robinson yn credu y bydd Cymru Dan 20 yn ceisio cipio'r Gamp Lawn am y tro cyntaf erioed eleni - ond mae'n credu eu bod yn wynebu her anferth.

Ychwanegodd cyn-olwr y Gleision, Toulon ac Agen: "Mi fydden nhw'n edrych i ennill pob un gêm ond mae timau cryf eraill yn y bencampwriaeth, mae wastad timoedd cryf gan Loegr a Ffrainc ar lefel dan 20. Ond mi fydden nhw'n bendant yn fwy hyderus ar ôl eu buddugoliaeth wych yn erbyn Iwerddon." Fe fydd Jamie yn ymuno a'r cyn glo rhyngwladol Deiniol Jones, y cyflwynydd Gareth Roberts a'r sylwebwyr Cennydd Davies a chyn gapten Cymru Gwyn Jones, ym Mharc Eirias nos Wener fel rhan o dîm Clwb Rygbi Rhyngwladol. Bydd Andy Moore a Ceri Sweeney hefyd yn darparu sylwebaeth Saesneg trwy'r gwasanaeth botwm coch. Mae'r rhaglen yn dechrau am 6.20 nos Wener, gyda'r gic gyntaf am 6.30.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?