S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Rygbi

Jenkins yn disgwyl gweld y Ffrancwyr yn arddangos eu doniau

Mae hyfforddwr sgiliau Cymru, Neil Jenkins yn disgwyl i Ffrainc roi tipyn o sioe i ni dan oleuadau nos Wener yn Stadiwm Principality.

Daw tim Guy Noves i Gaerdydd ddydd Gwener 26ain o Chwefror, a bydd y ddau dim yn ceisio parhau a'u record di-guro hyd yn hyn ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad RBS. Llwyddodd Cymru i fachu buddugoliaeth 27-23 dros yr Alban mewn gornest anodd er mwyn sbarduno eu hymgyrch, tra bod Ffrainc wedi bod yn fuddugol dros Iwerddon ar y Stade de France.

Ond mae'r gwr sydd wedi sgorio'r nifer mwyaf o bwyntiau dros Gymru, Jenkins, yn credu bydd Ffrainc yn ceisio lledu'r bêl gymaint a phosib pan fyddant yn cyrraedd yr wythnos nesaf.

Dywedodd: "Mae'r Ffrancwyr yn edrych fel eu bod yn awyddus i chwarae mwy o rygbi. Gyda'u cefnwr Maxime Medard a rhedwyr cyflym ar yr esgyll, byddant yn edrych i chwarae gêm lydan ac eang. O ran darn gosod Ffrainc, byddan nhw'n chwilio am feddiant yn y rheng flaen ac mae ganddynt fois mawr sy'n gallu cario'r bel yn effeithiol yn y rheng ol.

"Yn sicr, maent yn ceisio sefydlu patrwm pendant o chwarae, ond eu bwriad yn ol pob tebyg, yw dod i Gaerdydd i fwynhau'r gêm. Byddant yn dod a bygythiad mawr i'r tim cartref wythnos i ddydd Gwener."

Mae bois Warren Gatland wedi llwyddo i roi hygrededd i'w hymgyrch yn y Chwe Gwlad eleni wedi'r fuddugoliaeth a'u gwelodd yn sgorio tri chais dros Yr Alban y penwythnos diwethaf.

Colli fu hanes Cymru yn eu gêm gyntaf ym mhencampwriaeth 2013, ond aethon nhw'n eu blaenau i hawlio pedair buddugoliaeth yn olynol wedi hynny, er mwyn codi'r tlws yn Stadiwm Principality. Ac mae Jenkins yn darogan bydd pethau'n gwella i'r dynion mewn coch wrth i'r bencampwriaeth fynd rhagddi.

Dywedodd: "Mae hanes yn dangos ein bod yn gwella wrth i'r bencampwriaeth barhau. Ni allwch ddiystyru effaith prin chwe diwrnod o seibiant rhwng dwy gem. Rhaid i ni beidio anghofio i ni ennill yn anrhydeddus iawn ddydd Sadwrn. Nawr mae ganddom weddill yr wythnos hon a'r wythnos nesaf i baratoi – a 'da ni yn gwella, 'does 'mond gobeithio byddwn ni'n barod ar gyfer her y Ffrancwyr."

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?