S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Rygbi

Tocynnau Cymru ar gyfer y 6 Gwlad RBS ar gael mewn clybiau lleol

Disgwylir i gemau Cymru ym mhencampwriaeth y 6 Gwlad sy'n cael eu cynnal yng Nghaerdydd werthu allan am y trydydd tymor yn olynol wrth y docynnau i weld Lloegr ac Iwerddon yn Stadiwm Principality yn 2017 gael eu rhyddhau trwy glybiau rygbi o amgylch y wlad yr wythnos hon.

Clybiau a dyledebwyr (y rhai sy'n berchen 'debentures') sydd a'r hawl cyntaf ar y tocynnau i gartref rygbi Cymru sy'n dal 74,500 ar gyfer y gemau ym misoedd Chwefror a Mawrth y flwyddyn nesaf.

Y ffordd orau i gael gafael ar rai o'r tocynnau rygbi yma yw trwy eich clwb lleol yng Nghymru, gyda phleidlais Clwb Cefnogwyr swyddogol yn penderfynu beth fydd yn digwydd i'r tocynnau sbar. Ni ddisgwylir i unrhyw docynnau fod ar gael i'w rhyddhau ar werth i'r cyhoedd eto.

"Mae'r galw am docynnau i weld gemau cartref Cymru yn ystod y 6 Gwlad bob amser yn eithriadol o uchel ac rydym yn disgwyl iddyn nhw werthu allan am y drydedd flwyddyn yn olynol, a bydd hyn yn cael effaith hynod gadarnhaol ar ein gallu i gynllunio ar gyfer y dyfodol," meddai Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru Martyn Phillips.

"Mae'r gêm yn erbyn Lloegr bob amser yn atyniad enfawr i gefnogwyr y ddau dim, ond mae gêm Iwerddon hefyd yn gwerthu allan yn rheolaidd. Yn wir roedd pob un o'r gemau cartref - yr Alban, yr Eidal a Ffrainc – yn llawn y llynedd, ac mae hynny'n rhoi hwb enfawr i'r gêm yng Nghymru.

"Mae'r holl elw mae Undeb Rygbi Cymru yn ei dderbyn o werthiant tocynnau yn cael eu fwydo'n ôl yn uniongyrchol i mewn i'r gêm, i ariannu ein cynllunio strategol ar gyfer y dyfodol wrth i ni geisio sicrhau bod mwy o bobl yn chwarae mwy o rygbi yn amlach yng Nghymru.

"Rydym yn hynod falch i gael rhai o'r cefnogwyr gorau mewn unrhyw gamp yn y byd, ac rydym yn disgwyl bydd nifer fawr o bobl yn ymweld â chlybiau rygbi o amgylch Cymru yn ystod yr wythnosau nesaf i fachu rhai o'r tocynnau gwerthfawr yma."

Mae Undeb Rygbi Cymru wedi gwarantu na fydd pris isaf tocyn ar gyfer gemau'r 6 Gwlad yn Stadiwm Principality'n codi'n uwch na £ 40 am y tri thymor nesaf, gyda thocynnau lefel mynediad yn aros yr un pris neu'n lleihau mewn pris tan 2020.

Pris tocynnau i wylio Cymru yn wynebu Lloegr ym mhencampwriaeth y 6 Gwlad RBS ar 11eg o Chwefror yw £ 40, £ 70, £ 95 a £ 100 ac maent ar gael nawr mewn clwb rygbi yn eich ardal chi.

Mae tocynnau i weld Cymru yn herio Iwerddon ar y 10fed o Fawrth yn costio £ 40, £ 60, £ 85 a £ 95 gyda chlybiau unwaith eto'n cael eu hargymhell fel y lle gorau i gael tocynnau pris cywir i Stadiwm Principality ar gyfer y gêm hon.

Am wybodaeth bellach am Becynnau Lletygarwch Swyddogol ar gyfer gemau'r 6 Gwlad, ffoniwch 02920 822 413 neu ewch i www.wru.wales/hospitality.

Mae clybiau hefyd yn gallu rhoi detholiad o docynnau yn ol er mwyn eu gwerthu'n swyddogol drwy Undeb Rygbi Cymru, ar www.seatwave.com/wru

Gall cefnogwyr hefyd brynu tocynnau nawr ar gyfer pob un o'r pedair gem yng Nghyfres Under Armour fydd yn cael eu chwarae yn Stadiwm Principality fis Tachwedd.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?