S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Rygbi

Cwpan Rygbi’r Byd mwyaf agored ers blynyddoedd, meddai arwr Cymru Dwayne Peel

Mae Peel, a gafodd 76 cap i Gymru ac sydd nawr yn gwisgo crys rhif 9 i Fryste yn credu mai hon fydd y bencampwriaeth fwyaf agored ers blynyddoedd.

"Mae Grŵp A yn gosod tri o gewri'r byd rygbi, Lloegr, Cymru ac Awstralia yn erbyn ei gilydd ac mae'n bur debyg gall enillwyr y grŵp gael y momentwm i ennill y twrnamaint," meddai'r mewnwr sionc a fydd yn rhan o dîm cyflwyno'r gystadleuaeth ar S4C.

Mae Dwayne wedi cynrychioli Cymru mewn dau Gwpan y Byd, yn 2003 pan wnaeth Cymru ddisgleirio a bron curo pencampwyr y twrnamaint, Lloegr a'r gystadleuaeth yn 2007 pan aeth pethau o chwith a cholli i Ffiji.

"Mae momentwm ac ysbryd o fewn y tîm yn allweddol mewn cystadleuaeth o'r fath yn enwedig o'r chwarteri ymlaen ac er mai Seland Newydd yw'r ffefrynnau ar hyn o bryd, bydd enillwyr Grŵp A wedi caledi yn y frwydr. Galle'n nhw fod yn her i'r Crysau Duon, a fydd dan lot fawr o bwysau fel ymhob Cwpan y Byd gan ei bod nhw'n cael eu hystyried yn ffefrynnau a hynny'n haeddiannol.

"Mae'n gystadleuaeth agored iawn eleni, a chyda Lloegr hefyd dan bwysau, mae gan Gymru gyfle realistig. Pam lai? Mae Cymru'n dîm all herio'r goreuon. Gall unrhyw un o chwe gwlad ennill, gydag Iwerddon, De Affrica ac Awstralia hefyd â chyfle da."

Mae Dwayne, sy'n dad i ddau o blant ac yn byw nôl nawr yn ei hen ardal, Llanelli ar ôl cael chwe blynedd hapus yn chwarae i Sale Sharks ym Manceinion, yn edrych 'mlaen i sylwebu ar dwrnamaint mor agos i adre'.

"Bydd croesi Pont Hafren i gemau yn Twickenham yn ogystal â Chaerdydd yn wefreiddiol. I chwaraewr rygbi, does 'na ddim anrhydedd o fwy na chynrychioli'ch gwlad yng Nghwpan y Byd. Da chi'n mwynhau'r pwysau a'r nerfau, da chi'n cael blasu'r llwyddiannau a dysgu'r o'r methiannau, ond mae cael sylwebu ar y gemau ar S4C hefyd yn gyfle da."

Yn ôl Dwayne mae timau safonol a'r chwaraewyr gorau yn tyfu yng ngwyneb siomedigaethau.

"Fe gollon ni i Loegr yn 2003 o ganlyniad i gais hwyr gan Jason Robinson. Ond i fod yn deg, redden nhw'n haeddu ennill ac mi aethon nhw 'mlaen i fod yn Bencampwyr y Byd. Fe ddysgon ni o'r golled yna a dwy flynedd yn hwyrach fe aethon ni 'mlaen i ennill y Gamp Lawn am y tro cyntaf ers 27 mlynedd."

Mae Dwayne o'r farn bod tîm Cymru wedi dysgu o'u siomedigaeth yn 2011 pan fu'n rhaid iddyn nhw geisio curo Ffrainc yn y rownd gynderfynol gyda 14 o chwaraewyr ar ôl tacl bicell Sam Warburton.

"Mae Sam Warburton wedi tyfu fel chwaraewr ar ôl y digwyddiad torcalonnus yna ac mae'n gapten o'r radd flaenaf. Bydda i'n disgwyl i Scott Williams ddisgleirio nawr gan ei fod e fewn oherwydd anaf Jonathan Davies, a chyda arweinwyr naturiol fel Alun-Wyn Jones yn y tîm, mae Cymru'n her i unrhyw wlad."

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?