S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Rygbi

5 Poetha' Carfan Cymru

Wrth i ni barhau ar y llwybr tuag at gychwyn Cwpan Rygbi'r Byd, mae'n bryd troi ein golygon at y pethau pwysig. Pwy yw'r pump hync, y pump mwya' golygus a'r pump fydd y merched i gyd yn dwli arnyn nhw dros y deufis nesaf.

1. Leigh Halfpenny

Heb oedi dim, mae pob un fenyw a merch yng Nghymru yn caru Leigh Halfpenny. Ffaith! Mae e' wedi ennill sawl tlws led- led y byd am ei wyneb del a'i gorff duwiol. 'Does dim amheuaeth taw Leigh fydd un o ser mwya' tim Cymru drwy gydol Cwpan Rygbi'r Byd…. ar y cae ac oddi arno.

2. Scott Williams

Arwr di-glod y garfan yw Scott ond mae disgwyl y bydd e'n chwarae rhan fawr yn nhîm Cymru yn ystod Cwpan Rygbi'r Byd eleni. Mae'n gwbl amlwg bod gan Warren Gatland dipyn o feddwl ohono gan mai ef oedd capten Cymru yn y gynta o'u tair gêm gyfeillgar cyn dechrau'r Bencampwriaeth. Yn ddiweddar, mae'r menywod hefyd wedi sylwi ar y gŵr o'r gorllewin gyda'r wyneb main perffaith a'r corff cyhyrog. Does dim rhyfedd ei fod e'n modelu crysau Cymru a'r Scarlets!

3. Rhys Webb

Mae'n 26 mlwydd oed ac mae Rhys Webb wedi gwthio Mike Phillips (un o hyncs mwya' Cymru erioed!) allan o'r garfan ar gyfer Cwpan Rygbi'r Byd. Bydde llawer yn dadlau fod Webb wedi cymryd lle Mike fel ffefryn y merched hefyd. Mae'n danllyd, mae'n sgorio ceisiadau ac mae'n hoffi wincio at y camerau. Byddmerched Cymru a thu hwnt yn sicr yn gwenu ar Rhys a'i ddoniau yn ystod y misoedd nesaf.

4. Jamie Roberts

Jamie, Jamie, Jamie… Mae newydd symud yn ôl i Brydain ar ôl treulio dau dymor yn chwarae yn ninas mwyaf rhamantus y byd – Paris. Mae'n ddoctor ac yn un o arwyr Cymru ar y cae chwarae. Mae'n anodd dod o hyd i unrhyw wendid a dweud y gwir er bydde nifer o ferched yn hapus i Dr Jamie drin eu gwendidau mae'n siwr! Fe yw ffefryn Rhian 'Madam Rygbi' Davies a llawer, llawer mwy….!

5. Scott Baldwin

Hync y pac sy'n cymryd y lle olaf yn ein 5 poetha'. Mae'r llanc 27 wedi ennill 10 cap dros Gymru., a nawr fe yw un o ddau fachwr yng ngharfan Cwpan Byd i'r crysau cochion, felly mae pwysau mawr ar ei ysgwyddau! Bydd Scott yn denu nifer o gefnogwyr benywaidd dros gystadleuaeth Cwpan Rygbi'r Byd!

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?