S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Rygbi

5 Ffaith: George North

Rydym yn treiddio'n ddyfnach i wersyll Cymru er mwyn dod â 5 ffaith i chi am 3 chwaraewr. Y gŵr cyntaf o'r 3 ydy 'bwystfil' Seintiau Northampton, George North.

George North

1. Coleg Llanymddyfri

Mae Coleg Llanymddyfri, sy'n chwarae yn ein cyghrair ysgolion sy'n cael ei ddarlledu bob nos Fercher yn Rygbi: Cwpan y Byd a Mwy 'Rygbi Pawb' wedi cael George North yn gwisgo un o'u crysau. Wedi mynychu Ysgol Uwchradd Bodedern, yn Sir Fon, symudodd North i lawr i'r de gan dreulio'i flynyddoedd ysgol ola'n Llanymddyfri.

2. Hanes Cwpan Rygbi'r Byd

Yng Nghwpan Rygbi'r Byd 2011, rhoddodd North ei enw yn y llyfrau hanes, gan mai fe oedd y chwaraewr ieuengaf erioed i sgorio mewn Cwpan Rygbi'r Byd, ac yntau'n 19 oed a 166 diwrnod. Curodd hwn y record blaenorol a oedd yn cael ei arddel gan Joe Roff o Awstralia.

3. Y chwaraewr ieuengaf i gael ' brace'

Na… nid y rhai 'da chi'n gwisgo'n eich ceg i sythu'ch dannedd… pan roedd North yn ddim ond 18 blwydd oed a 214 diwrnod, fe oedd y chwaraewr ieuengaf eriod i sgorio cais yn ei gem gyntaf i Gymru. Llwyddodd i ddwyn record Tom Pearson (18 mlwydd oed a 238 diwrnod) pan sgoriodd yn erbyn Lloegr yn 1891.

4. 'Hat Trick'

Dim ond un 'hat trick' mae George wedi sgorio mewn gem ryngwladol. Roedd Pencampwriaeth Chwe Gwlad RBS 2015 yn un agos iawn, gan bod modd i Gymru, Lloegr ac Iwerddon ennill y gystadleuaeth. Fodd bynnag, sialens Cymru oedd rhoi nifer penodol o bwytiau ar y sgorfwrdd er mwyn sicrhau buddugoliaeth. Rhoddodd Gymru grasfa i'r Eidalwyr 61-20 yn Rhufain, a dyna'r gem ble sgoriodd North ei 'hat trick', ond yn anffodus ni lwyddodd Cymru i ennill digon o bwyntiau i sicrhau'r Pencampwriaeth.

5. 50 Cap

Ym Mhencampwriaeth Chwe gwlad RBS 2015, North oedd y chwaraewr ieuengaf i ennill 50 cap rhyngwladol (47 dros Gymru, 3 i'r Llewod) ac yntau 'mond yn 22 oed. Does 'run chwaraewr arall erioed wedi llwyddo i gyflawni hynny. Mewn gem ddiweddar yn arwain at Gwpan Rygbi'r Byd, cyrhaeddodd North ei 50 cap dros Gymru, unwaith eto y chwaraewr ieuengaf i wneud hynny.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?