S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Rygbi

5 atgof arbennig i Gymru yn ystod Cwpan Rygbi’r Byd 2015

Rydym yn bwrw golwg yn ôl dros 5 atgof arbennig i Gymru yn ystod y bencampwriaeth. O'r ornest gyntaf yn erbyn Uruguay, i'n gêm olaf un yn erbyn De Affrica, dyma hel atgofion melys o Gwpan Rygbi'r Byd 2015.

1. Y ‘Biggarena’

Heb os nac oni bai, dyma un o hoff berfformiadau'r cefnogwyr. Fe welon ni'r 'Biggarena' pan drechodd Cymru Lloegr 28-25 yn Twickenham. I'r rhai ohonoch sydd heb glem beth yw'r Biggarena , dyma sut i'w gyflawni: Anelwch am y pyst, cyffyrddwch yn eich ysgwydd chwith cwpwl o weithiau… yn eich ysgwydd dde cwpwl o weithiau… bownsiwch yn afreolus lan a lawr yn eich unfan… twtiwch eich gwallt… ail-adroddwch y cwbwl sawl gwaith yna taro'r bêl yn berffaith rhwng y pyst er mwyn ennill y gêm. 'Da ni hyd yn oed wedi gweld prop De Affrica, Trevor Nyakane yn gwneud y 'Biggarena'.

2. Amddiffyn y Sgarmes

Os gall Japan ei wneud….yna gall unrhywun amddiffyn y sgarmes! Dyna be' feddylion ni… Gwrthododd Japan (a lwyddodd i droi'r drol ar y Springboks yn Brighton gan roi lle haeddiannol iddyn nhw yn oriel hanes rygbi) y cyfle i gicio am 3 phwynt (er mwyn cael gêm gyfartal), a dewis cicio i'r gornel! Yn nhyb y mwyafrif, roedd y gêm drosodd, ond wedi gwthio, brwydro, rhedeg a chwympo, llwyddodd y Siapaneaid i groesi'r llinnell am gais i ennill y gêm. Ceisiodd Lloegr….gyda'r un brwdfrydedd…. i wneud yr un peth yn erbyn Cymru… ond 'doedd y canlyniad ddim cweit 'run fath. Roedd amddiffyniad Cymru o'r sgarmes yn berffaith, gan wthio Lloegr ar ongl allan i'r ystlys! Y canlyniad oedd i Gymru ail-feddiannu'r bêl a charlamu i fuddugoliaeth fythgofiadwy.

3. Jiffy, Ioan a Gats

Wedi'u rhannu filoedd o weithiau led-led y byd, 'roedd 'na ddathliadau anhygoel a chofiaday gan y tri gŵr yma. Y cyntaf oedd ymateb Mr Gatland ar ddiwedd y gêm… roedd ganddo wên lydan ar ei wep ac roedd hi'n amlwg ei fod wedi cynhyrfu gymaint â'r gweddill ohonom! Gwelwyd Jonathan (Jiffy) Davies, a oedd yn sylwebu'n y Stadiwm, yn neidio'i fyny ac i lawr, yn sgrechian nerth ei ben…hyd nes iddo syrthio i'r llawr! Yr un oedd ymateb nifer fawr ohonom hefyd, dwi'n siwr! A'r 3ydd gŵr doeth…rhaid i ni beidio anghofio Ioan Gruffydd, yr actor o Gymro a gafodd ei ffilmio gan ei wraig yn dathlu'n LA, yn gweiddi heb falio dim am neb! Roedd yr achlysur wedi gwneud iddo anghofio ei fod yn ei drôns/bans…

4. Yr Anthem

Dydyn ni ddim yn meddwl byddai neb yn anghytuno pan dd'wedwn nad oedd canu'r anthemau yn mynd i ennill gwobrau yn ystod Cwpan Rygbi'r Byd eleni (doedd 'na fawr o gyd-ganu)… Fodd bynnag, mae'n deg i ddweud roedd pob Cymro ar ei draed yn canu'r anthemgyda balchder ac angerdd. Wynebau coch mewn gwisgoedd coch, dagrau yn ystod ac ar ôl bob gêm. Ni oes dim yn gallu cystadlu ag anthem Cenedlaethol Cymru.

5. Nigel Owens

Mae'r gŵr o Fynyddcerrig, oedd yn ffefryn gan bawb i ddyfarnu yn y ffeinal, wedi gwneud penderfyniadau clodwiw…whit-wiw trwy gydol y bencampwriaeth. Gyda meddwl chwim ac atebion di-flewyn-ar–dafod, gan gynnwys ei ymateb i'r AlbanwrStuart Hogg, a blymiodd fel pedroediwr i'r llawr ar ôl i asgellwr De Affrica JP Pieterson basio heibio iddo. Mae pawb yn caru Nigel…y cefnogwyr, y chwaraewyr…pawb, ac rydym yn barod ar gyfer beth bynnag ddaw ganddo cyn diwedd y bencampwriaeth hon eleni.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?