S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Rygbi

Dydd y Farn yn Stadiwm Principality yn torri record

Mae Dydd y Farn yn Stadiwm Principality wedi torri record y niferoedd fydd yn gwylio gemau Guinness PRO12 unwaith eto, y tro hwn gyda bron i dair wythnos i fynd tan y gic gyntaf – ddydd Sadwrn 30ain Ebrill.

Roedd torf o 52,762 o gefnogwyr yno'r llynedd , nifer sy'n sylweddol fwy na'r un ddaeth i'r achlysur blaenorol , sef gêm ddarbi Gwyddelig yn Stadiwm Aviva rhwng Leinster a Munster yn 2014.

Mae'r digwyddiad blynyddol, sydd bellach yn ei bedwaredd flwyddyn , yn denu mwy na dwbwl y dorf sydd yn gwylio unrhyw gem arall ym mhencampwriaeth Guinness PRO12 hyd yn hyn y tymor hwn, ac wedi cael ei nodi fel achlysur sy'n rhaid ei weld yn y brifddinas gan gadeirydd Undeb Rygbi Cymru Gareth Davies .

Gyda thocyn rhif 52,763 wedi'i werthu gan swyddfa docynnau Stadiwm Principality yr wythnos hon, yr unig achlysur tebyg i Ddydd y Farn eleni, hyd yma, yw'r darbi Munster yn erbyn Leinster a ddenodd 43,108 i'r Aviva ar ddechrau'r mis.

Os dowch chi i'r diwrnod darbi yng Nghymru, a alwyd yn JDIV, gallwch wylio'r Gleision yn herio'r Gweilch am 2.30yh ac yna'r tim gyrhaeddodd y pedwar olaf yng Nghwpan Her Rygbi Ewrop, Y Dreigiau gartre'n erbyn y Scarlets am 5yh yn rownd olaf ond un (21) y Guinness PRO12.

"Llynedd, fe werthon ni filoedd o docynnau ar ddiwrnod y digwyddiad ac rydym yn disgwyl torf enfawr i gyrraedd ar y funud olaf eleni eto," meddai llefarydd ar ran Undeb Rygbi Cymru.

"Bydd yn achlysur pwysig pan fyddwn ni 'n cyhoeddi ein ffigwr terfynol ar gyfer y niferoedd yn ystod ail gêm y dydd, ac yn gosod record newydd arall ar gyfer niferoedd mewn digwyddiad Guinness PRO12."

Wrth sôn am dorri record unwaith eto, dywedodd Martin Anayi, rheolwr gyfarwyddwr Rygbi PRO12: "Mae Ddydd y Farn wedi tyfu i fod yn un o ddigwyddiadau mwyaf cynhyrfus Guinness PRO12 ac mae'n newyddion gwych ein bod eisioes wedi gwerthu mwy o docynau nag erioed o'r balen, a hynny gyda thair wythnos i fynd tan y digwyddiad .

Dywedodd Mark Davies, Prif Weithredwr Pro Rygbi Cymru: "Mae'n galonolgol iawn ar gyfer Rygbi Cymru a'r Guinness PRO12 fod y digwyddiad yma'n dalblygu i fod mor llwyddiannus ac y byddwn yn torri record y llynedd yn Stadiwm Principality."

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?