S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Rygbi

Colofn Gwyn Jones – Dydd y Farn

Mae Dydd y Farn eleni wedi profi'n llwyddiant mawr yn fasnachol. Mae gwerthu bron pob tocyn yn Stadiwm Principality yn gryn gamp pan 'da chi'n ystyried fod y tymor hwn heb fod yn un llwyddiannus i rygbi yng Nghymru – ac eithrio'r tîm Dan 20 wrth gwrs.

Does dim diddordeb gen i yn y byd marchnata ond mae ymdrechion ar y cyd rhwng Undeb Rygbi Cymru a'r rhanbarthau wedi sicrhau bod Dydd y Farn IV wedi denu cefnogwyr tu hwnt i'r torfeydd arferol, ac mae maint y dorf yn debycach at un gêm ryngwladol. Mae hyn yn llwyddiant sydd angen ei roi mewn persbectif.

Mewn cyfnod lle mae niferoedd isel o gefnogwyr yn mynychu'r gemau, mae strategaeth sy'n llwyddo i ddenu 70,000 o bobl i wylio'r rhanbarthau yn un wyrthiol.

Mae rhai pobl yn dweud od hwn yn gyfle i gynulleidfa newydd gael blas ar rygbi'r rhanbarthau cyn tymor nesaf. Os felly, mae'n rhaid i'r rhanbarthau wneud ymdrech i ddiddanu'r dorf. Gallwn ni ddim anwybyddu'r math o rygbi a welsom yn ystod Cwpan y Byd y llynedd.

Roedd timoedd hemisffer y Dde yn rhedeg yn gyflym o safleoedd dwfn, gyda'r bwriad o sgorio ceisiau. Mae'r amser mae'r bêl yn aros ar y maes yn cynyddu, tra bo chwaraewyr yn taclo, pasio a chario'r bêl yn fwy. Maen nhw wedi mynd yn fwy ffit a heini, er mwyn eu galluogi i chwarae gêm fwy chwim a thwyllodrus.

Mae rhai o'n chwaraewyr ni yng Nghymru angen gadael y gampfa yn fwy. Maen nhw angen newid y dumb bell am bêl rygbi a phoeni mwy am basio gyda'r llaw chwith yn hytrach na chodi pwysau. Mae Cymru yn ymfalchïo yn ffaith mai nhw yw'r tîm mwya' ffit yn y byd, ond dydyn ni ddim yn agos at fod y tîm gorau.

Mae angen i'r rhanbarthau ddechrau chwarae yn y dull newydd yma. Felly rwy'n pledio ar y rhanbarthau ar Ddydd y Farn i fynd allan a chwarae gêm ymosodol, bositif. Nid ymosod heb gymryd gofal, ond chwarae gyda mwy o ryddid. Y peth olaf mae'r dorf 70,000 eisiau gweld ydi cyfres ddiddiwedd o sgrymiau a sgarmesau symudol. Os yw'r gemau yn ddiflas, fydden nhw ddim eisiau dychwelyd i wylio'r rhanbarthau eto.

I fod yn deg, mae rheng ôl y Gleision, sydd yn llawn o flaenasgellwyr agored, yn eu galluogi nhw i chwarae gêm ddeinamig. Mae ganddyn nhw feddylfryd ymosodol.

Eu prawf mawr nhw fydd ceisio ymdopi gyda maint a dwyster blaenwyr y Gweilch. All y Gleision barhau i chwarae'r ffordd honno o dan bwysau a chyflymder llinell amddiffynnol y Gweilch? Dw i'n rhagweld buddugoliaeth agos i'r Gleision.

Mae'r ail gêm yn edrych yn fwy diddorol. Fe fydd y Dreigiau angen anghofio am eu trafferthion oddi ar y cae am 80 munud i herio tîm y Scarlets sydd angen rhoi diwedd ar eu rhediad sâl diweddar.

Dw i'n meddwl y bydd y Scarlets yn cipio buddugoliaeth dros y Dreigiau; os na allan nhw wneud hyn, mae'n edrych yn ddu arnyn nhw.

Mae Gwyn Jones yn aelod o dîm cyflwyno Clwb Rygbi ar S4C. Gwyliwch y gêm rhwng Dreigiau v Scarlets ar Ddydd y Farn yn fyw ar S4C ddydd Sadwrn, 30 Ebrill, gyda'r gic gyntaf am 5.00pm. Sylwebaeth Saesneg ar gael. Bydd y gêm Gleision v Y Gweilch yn fyw ar BBC Two Wales o Stadiwm y Principality, gyda'r gic gyntaf am 2.30pm.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?