S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Rygbi

Tipuric ac Ardron yn ol i’r Gweilch

Justin Tipuric

Bydd Justin Tipuric a Tyler Ardron yn holliach ar gyfer gem gynta'r Gweilch wedi gwyliau'r haf. Fe anafwyd Tipuric yng ngem Cymru yn erbyn yr Eidal yn y 6 Gwlad a dyw e ddim wedi chwarae ers hynny gan fethu diwedd tymor y Gweilch a thaith Cymru i Seland Newydd. Erbyn hyn mae e wedi bod yn ymarfer gyda charfan y Gweilch wrth baratoi at y tymor newydd ac mae e'n edrych ymlaen yn fawr at yr hyn sydd o'i flaen.

Anafodd Ardron ei benglin tra'n arwain Canada yng Nghwpan y Byd ac o'r herwydd fe ddaeth dymor yntai i ben ym mis Mawrth. "Rwy'n 100% erbyn hyn," meddai, "Mae'r benglin yn iawn ac mae cyfnod ychwanegol yn y gampfa wedi gwneud byd o les."

Roedd colli' ddau flaenwr profiadol yn golled mawr i'r Gweilch felly mae yna frwdrydedd ac egni newydd yn y garfan yn barod at ymgyrch arall yn y Pro12.

Yn ol Tipuric, "Dydw'i ddim yn glaf da! Mae eistedd o gwmpas y lle yn gwneud dim yn wrthun imi ac mae pawb yn ymwybodol bod rhaid i ni wneud yn well fel tim na'r tymor diwetha. Rwy'n disgwyl mlaen i gystadlu yng Nghwpan Her Ewrop hefyd. Bydd y tymor newydd yn sialens i ni gyd ac mae'n rhaid i'r Gweilch dderbyn yr her a chyrraedd y brig unwaith eto."

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?