S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Rygbi

Mae’r Tîm A yn dychwelyd er mwyn cynnig y 'cam nesaf'

Cadarnhaodd prif weithredwr Undeb Rygbi Cymru, Martyn Phillips bydd Cymru'n chwarae gemau tîm A y tymor nesaf am y tro cyntaf ers 2002.

Bydd y tîm A yn cael ei ddefnyddio ar gyfer datblygu chwaraewyr a disgwylir iddo ddarparu cyswllt coll i chwaraewyr rhyngwladol y dyfodol sydd â'r potensial i gamu o'r gêm ranbarthol, clwb neu rygbi Dan 20 i'r llwyfan rhyngwladol mwy.

Daw'r newyddion wrth i fanylion pellach ddod i'r amlwg am strategaeth bedair blynedd ehangach a ddatblygwyd gan Phillips, Warren Gatland a hyfforddwyr carfan cenedlaethol Cymru yngyd â phennaeth perfformiad Undeb Rygbi Cymru, Geraint John. Nôd y strategaeth newydd yma yw arwain y gêm yng Nghymru tuag at Gwpan Rygbi'r Byd Japan yn 2019, ond mae hefyd wedi'i gynllunio er mwyn diogelu dyfodol y gêm yng Nghymru.

Mae'r strategaeth yn golygu bod tîm hyfforddi'r garfan genedlaethol gyfan yn ymrwymo eu dyfodol i Gymru tan 2019. Mae hefyd yn targedu ffyrdd o gryfhau y gêm gartref, sy'n cynnwys cynnydd o hanner miliwn o bunnoedd i'r arian ar gyfer chwaraewyr Cytundeb Deuol Cenedlaethol (NDC).

"Rydym o ddifrif am gadw ac ailwladoli chwaraewyr allweddol, mae'r chwaraewyr yn gwybod hynny, ac fe gytuno' ni gyda'r rhanbarthau 'nôl ym mis Rhagfyr i gynyddu cronfa'r NDC," meddai Phillips.

"Byddwn yn ailsefydlu tim A Cymru ar gyfer y tymor nesaf ac yn credu gall y gemau fod o gymorth i ni a'r rhanbarthau drwy gyflwyno lefel uwch o gystadlu i'r criw nesaf o chwaraewyr.

"Os gallwn adnabod y chwaraewyr sydd yn gallu ymdopi gyda'r dwyster, a helpu'r rhai sy'n cael anhawster, yna mewn gwirionedd bydd ganddom strwythur i ddatblygu'n eithaf cyflym.

"Byddant yn gemau Chwe Gwlad i ddechrau, ond rydym hefyd yn ystyried gwrthwynebwyr eraill.

"Byddwn yn dewis timau er mwyn cynnig profiad i'r chwaraewyr ymhob agwedd o'r gêm.

"Ein nôd yw sicrhau bod tim A Cymru a'r tîm dan 20 yn datblygu ac yna ennill, ac yn y drefn honno.

"Mae'n rhaid i ni hefyd roi hyder a chefnogaeth i'r hyfforddwyr fel eu bod yn sylweddoli ein bod yn gyfforddus gyda hynny."

Y gêm gystadleuol olaf i Gymru A oedd honno 'nôl yn 2002, gyda chwaraewyr fel Shane Williams a Tom Shanklin yn cael eu cynnwys yn y tim a oedd yn cael ei hyfforddi gan Mike Ruddock ym Mhencampwriaeth A y Chwe Gwlad.

Mae gan y tim hefyd hanes o chwarae gemau yn erbyn timau teithiol, a'r d'wethaf oedd honno pan gafon nhw eu trechu 34-15 trechu yn erbyn De Affrica yn 2000. Mae Geraint John, y dyn sy'n gyfrifol am ddatblygu chwaraewyr URC, yn ei weld fel datblygiad cwbwl hanfodol ar gyfer creu chwaraewyr gwell .

"Bydd y tîm yn darparu'r ddolen goll ar gyfer rhai chwaraewyr ac yn y pen draw gall ddyfnhâu'r stôr o dalent sydd ar gael i'r ddwy garfan genedlaethol ac i'r rhanbarthau," meddai John.

"Bydd y gemau yn gyfle i chwaraewyr gael profiad o ddwyster y gêm ryngwladol ac yn llenwi'r bwlch rhwng rygbi sy'n cael ei raddio gydag oedran a'r gêm ranbarthol, gyda'r gystadleuaeth ryngwladol.

"Byddwn yn edrych am y criw nesaf o chwaraewyr fydd yn dod i'r amlwg tu hwnt i 2019, a bydd y tîm A yn cynnig cyfleon datblygu cyfoethog i ni."

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?