S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cymorth

Atal Aflonyddu yn y Gwaith

Mae aflonyddu yn y gweithle, gan gynnwys aflonyddu rhywiol, yn creu amgylchedd anniogel na ddylai neb orfod ei oddef. O dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, ac atgyfnerthwyd mewn deddfwriaeth pellach yn 2024, mae hefyd yn angyfreithlon. Gan gyflogwyr yng Nghymru ddyletswydd gyfreithiol i ofalu am atal aflonyddu ac i ymateb yn briodol i gwynion. Os nad yw eich cyflogwr yn cymryd camau, gallwch gyflwyno cwyn ffurfiol neu geisio cyngor gan gyfreithiwr cyflogaeth ynghylch mynd â'r mater i Dribiwnlys Cyflogaeth.

Os ydych wedi profi aflonyddu yn eich gweithle, mae cymorth am ddim a chyfrinachol ar gael drwy sefydliadau fel y rhai a restrir yma.

  • TUC Cymru

    TUC Cymru yw prif lais yr undebau dros hawliau gweithwyr yng Nghymru. Ceir ffynonellau cymorth ac adnoddau defnyddiolar eu gwefan ar ystod o faterion gan gynnwys aflonyddu yn y gwaith, cydraddoldeb a gwahaniaethu a chefnogi gweithwyr hŷn.

    www.tuc.org.uk

  • Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol

    Mae'r Comisiwn yna i sicrhau fod hawliau pawb a safonau cydraddoldeb yn cael eu parchu gan bob sector a mudiad, gan gynnwys y pŵer i ymchwilio arferion yn y gweithle am aflonyddu rhywiol, a chosbi unrhyw ddiffyg cydymffurfiaeth i'r rheolau.

    0808 800 082

    www.equalityhumanrights.com

  • Cyngor ar Bopeth

    Gyda dros 3,000 o swyddfeydd drwy'r DU, gall Cyngor ar Bopeth helpu gyda materion cyfreithiol, gwaith, ariannol a mwy, a hynny am ddim. Gallwch gael hyd i'ch gwasanaeth lleol trwy'r wefan neu'r llyfr ffôn. Gwybodaeth ddefnyddiol iawn ar bynciau gwahanol ar y wefan hefyd.

    www.citizensadvice.org.uk

  • ACAS - Advisory, Conciliation and Arbitration Service

    Mae ACAS yn rhoi cyngor diduedd am ddim i weithwyr a chyflogwyr ar hawliau, rheolau ac arferion gorau yn y gweithle. Maent hefyd yn cynnig hyfforddiant a chymorth i ddatrys anghydfodau. Adnoddau defnyddiol ar eu gwefan.

    www.acas.org.uk

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?