Cymorth

Cymorth

Canser y fron

Gwybodaeth, help pellach a chefnogaeth gyda canser y fron.

  • Bron Brawf Cymru

    Gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth am sgrinio am canser y fron yng Nghymru. Mae sgrinio'r fron ar gael yn rheolaidd i bob merch sydd rhwng 50 a 70 oed ac sy'n byw yng Nghymru. Bron Brawf Cymru sy'n rhoi rhaglen sgrinio'r fron y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (y GIG) ar waith yng Nghymru.

     

    phw.nhs.wales/services-and-teams/screening/breast-screening/
     

    Canolfan Sgrinio'r Fron De-ddwyrain Cymru
    18 Heol yr Eglwys Gadeiriol
    Caerdydd
    CF11 9LJ
    Ffôn: (029) 2039 7222

    Canolfan Sgrinio'r Fron Gorllewin Cymru
    24 Heol Alexandra
    Abertawe
    SA1 5DY
    Ffôn: (01792) 459988

    Canolfan Sgrinio'r Fron Gogledd Cymru
    Ffordd Maes Du
    Llandudno
    LL30 1QY
    Ffôn: (01492) 860888

    Canolfan Sgrinio'r Fron Gogledd-ddwyrain Cymru
    Rhodfa Ellice
    Parc Technoleg Wrecsam

    Wrecsam
    LL13 7YT

    Ffôn: (01492) 860888

    • Breast Cancer Now

      Un o'r prif elusennau sy'n cynnig cymorth, cefnogeth ac sy'n ymgyrchu dros pobl gyda canser y fron.

      0808 800 6000

      breastcancernow.org


      • Breat Cancer UK

        Elusen sy'n codi ymwybyddiaeth ac yn ariannu ymchwil i ganser y fron. 

         

        www.breastcanceruk.org.uk

        • Metup UK

          Grŵp eiriolaeth cleifion Canser y Fron Metastatig (MBC) yw Metup UK. Maent yn gweithio i wella canlyniadau i'r rhai sy'n byw gyda MBC. Eu bwriad yw gwneud yn siwr fod y cyflwr yn cael israddio o glefyd anwelladwy i salwch cronig.

           

          metupuk.org.uk

          • Tenovus

            Mae Tenovus yn cynnig gwasanaeth dwyieithog dros y ffôn a chwnsela i'r sawl sy'n byw gyda chanser, eu teuluoedd a'u gofalwyr. Gwybodaeth ar sut i osgoi canser, profion, triniaeth, gofal a gwasanaethau cefnogi.

            • Macmillan Cancer Support

              Mae Macmillan Cancer Support yn brwydro i wella ansawdd bywyd y sawl sy'n byw gyda chanser. Gwybodaeth glir ar y wefan, yn cynnwys arbenigedd Cancer BACKUP, sydd wedi uno a Macmillan yn ddiweddar. Cefnogaeth hefyd trwy'r llinell gymorth, yn ogystal â'r 2000 o nyrsys hyfforddedig sy'n arbenigo mewn canser.

              • CancerHelp

                Mae CancerHelp yn wasanaeth gwybodaeth cynhwysfawr i'r sawl sy'n byw gyda chanser, ac yn rhan o Cancer Research UK.

                www.cancerresearchuk.org/about-cancer

                • Galw IECHYD Cymru

                  Mae Galw IECHYD Cymru yn llinell cymorth sy'n darparu gwybodaeth ar iechyd a gwasanaethau iechyd ar hyd a lled Cymru. Mae'r llinell wedi staffio gan nyrsys profiadol, 24 awr y diwrnod.

                  • Patient.info

                    Gwybodaeth helaeth o safon am bynciau iechyd, sy'n cael ei ddarparu gan ddoctoriaid a nyrsys mewn ymgynghoriad fel arfer.

                    www.patient.info