Cymorth

Cymorth

Iselder

Mae sawl gwahanol fath o iselder, ac mae yna raddfeydd o ba mor ddifrifol mae'r salwch clinigol yma'n gallu effeithio'ch bywyd.

Rhaid gwahaniaethu hefyd rhwng teimlo'n isel yr ysbryd weithiau - sy'n hollol naturiol - a chael cyfnod o iselder sydd ddim yn gwella, sy'n cael ei gyfri'n salwch. Cofiwch mai'ch doctor yw un o'r bobl gyntaf allwch weld os ydych chi'n dioddef cyfnod fel hyn.

  • YoungMinds

    Gwybodaeth ddefnyddiol i'ch helpu gyda'ch bywyd emosiynol a'ch iechyd meddwl. Hefyd, help i geisio deall os yn rhiant neu'n ofalwr i berson ifanc.

    www.youngminds.org.uk

    • CALM

      Os ydych yn ddyn ifanc, gellir cael help a chyngor os ydych chi'n teimlo'n isel drwy fynd i wefan C.A.L.M. neu drwy gael gair dros y ffôn.

      www.thecalmzone.net

      • Sefydliad DPJ

        Cwnsela a hyfforddiant i gefnogi iechyd meddwl ffermwyr a phobl sy'n gweithio mewn cymunedau gwledig.

        0800 587 4262 neu tecstiwch 07860 048799

        www.thedpjfoundation.co.uk

        • Meddwl.org

          Gwefan cynhwysfawr yn y Gymraeg sy'n cynnig erthyglau, dolenni a adnoddau cefnogol i bobl sy'n byw gyda problemau iechyd meddwl.

          meddwl.org

          • Head Above The Waves

            Sefydliad di-elw wedi'i leoli yng Nghymru sy'n codi ymwybyddiaeth o iselder a hunan-niwed ymhlith pobl ifanc. Maent yn cynnig gweithdai ac adnoddau, rhai yn ddwyieithog, yn ogystal â chyfeirio at ffynonellau cymorth.

            hatw.co.uk

            • Mind Cymru

              Cyngor a chefnogaeth dwyieithog i unrhyw un sydd gyda problem iechyd meddwl, ond gyda gwybodaeth clir a da ar ystod o bynciau.

              www.mind.org.uk


              • Adferiad

                Mae Adferiad Recovery yn cyfuno sgiliau ac arbenigedd pedair elusen - Adferiad Recovery, CAIS, Hafal a WCADA - sydd wedi uno er mwyn darparu gwasanaethau i bobl yng Nghymru sydd â phroblemau iechyd meddwl, problemau camddefnyddio sylweddau, a'r rhai hynny sydd ag anghenion cymhleth sy'n cyd-ddigwydd. Maent hefyd yn cefnogi gwasanaeth yr Ystafell Fyw a Cynnal, gwasanaeth cwnsela cyfrinachol sydd ar gael ledled Cymru i holl aelodau’r Clerigiaeth, Gweinidogion yr Efengyl a’u teuluoedd.

                adferiad.org
                 

                • Galw IECHYD Cymru

                  Mae Galw IECHYD Cymru yn llinell cymorth sy'n darparu gwybodaeth ar iechyd a gwasanaethau iechyd ar hyd a lled Cymru. Mae'r llinell wedi staffio gan nyrsys profiadol, 24 awr y diwrnod.

                  • Patient.info

                    Gwybodaeth helaeth o safon am bynciau iechyd, sy'n cael ei ddarparu gan ddoctoriaid a nyrsys mewn ymgynghoriad fel arfer.

                    www.patient.info

                    • Y Samariaid

                      Cefnogaeth emosiynol gyfrinachol dros y ffôn ar gael gan y Samariaid - unrhyw bryd, dydd neu nos. Mae hefyd gwasanaeth Gymraeg ar gael rhwng 7pm-11pm bob nos, drwy ffonio 0808 164 0123.


                      116 123

                      www.samaritans.org