Beth yw brand HANSH?
Mae HANSH wedi sefydlu erbyn hyn i fod yn frand ar-lein 16-34 gyda skew iau lle gallwch ddisgwyl chwerthin ar gynnwys pryfoclyd, adlewyrchu realiti a gobeithion pobl ifanc Cymru, dathlu creadigrwydd syfrdanol, a chreu trwbwl da.
Mae HANSH yn frand sy'n falch o roi llwyfan cynhwysol i amrywiaeth hunaniaethau y Gymru ifanc. Mae hefyd wedi bod yn le i ddatblygu talent newydd sydd wedi dod yn enwau cyfarwydd ar draws cyfryngau Cymru ond nawr rydyn ni eisiau gweld wynebau newydd fydd yn dod yn wynebau HANSH y dyfodol.
Pa fath o gynnwys ydyn ni am greu ar HANSH?
Mae HANSH wedi cynhyrchu sawl rhaglen lwyddiannus tu hwnt i social; cyfres o ffilmiau dogfen sengl 15', comedi gymeriad Cymry Feiral, dogfen gomedi Pa Fath o Bobl...Patagonia a chyfres faterion cyfoes a hunaniaeth GRID. Rydym nawr mewn safle cryf i adeiladu ar hyn, gan ymestyn yr amser mae'r gynulleidfa yn treulio gyda ni, a thyfu gwelededd y cynnwys.
Mae gofyn i'r syniadau fod yn sefyll yn glir ar wahân i gynnwys presennol llinol S4C, yn wreiddiol yn eu fformatau, yn cyfateb i ddisgwyliadau iau o ran ton ac agwedd. Byddant yn uchelgeisiol yn y castio ac ansawdd y cynhyrchu. Dylai syniadau dargedu y gynulleidfa 16-34 yn gwbl glir, a gofynnwn i chi ystyried cynulleidfa darged fanylach o fewn yr ystod oedran hwn.
Cyfresi Adloniant
Rydym yn edrych am syniadau realiti a fformatau adloniant ffeithiol unigryw sy'n gosod her.
Bydd y cyfresi adloniant yn must-watch ac yn llawn drama perthnasau ieuenctid a'r hiwmor sy'n gynhenid mewn cymeriadau cryf a sefyllfaoedd sy'n gorfodi pobol i ymateb. Ond rydym eisiau i'r syniadau gael eu seilio ar themâu a chwestiynau cyfoes, gyda ffocws ac agwedd cwbl berthnasol i bobl ifanc.
Rydym yn arbennig yn awyddus i gael syniadau sy'n delio â dêtio a pherthynas, cymdeithasu ar ôl Covid, heriau sy'n rhoi cyfle i bobl dyfu fel unigolion, defnydd lleoliadau ar draws Cymru a cheisio canfod eich lle a'ch llais mewn byd sydd wastad yn newid.
Os bydd sawl syniad da yn dod i'r brig yna byddwn o bosib yn cynnig arian datblygu ac yn dewis yn sgil y gwaith datblygu hwnnw er mwyn sicrhau bod y syniadau mor gryf ag y gallant fod.
Cyfresi Dogfen
Rydym yn edrych am gyfresi dogfen fydd yn taflu goleuni ar garfan benodol o Gymry ifanc sydd yn ceisio dod o hyd i'w lle yn y Gymru gyfoes, gymhleth, galed ôl-Covid trwy garu, gweithio ffraeo, breuddwydio a brwydro.
Dydyn ni ddim eisiau profiles o unigolion ond dilyn pobl yn agos wrth iddyn nhw wynebu heriau bywyd, delio a'u gilydd a chreu naratif ddramatig.
Rydym eisiau syniadau sydd gyda amrywiaeth gymdeithasol wrth eu craidd gan fynd â ni i gorneli o Gymru ifanc sydd ddim yn aml yn cael eu dangos yn aml.
Anfonwch eich syniad ar ffurf dogfen pitch/ dec sleidiau PDF ddim mwy na 2 tudalen erbyn 12pm, ddydd Iau 22ain o Ebrill 2020.
Anfonwch eich cynigion at tendr@s4c.cymru
Gallwch gyflwyno mwy nag un syniad. Cadwn yr hawl i beidio comisiynu unrhyw gynigion a dderbynnir
Edrychwn ymlaen yn fawr at dderbyn eich cynigion.
Amserlen cyflwyno syniadau
Cyhoeddi: 30ain o Fawrth 2021
Sesiwn Cwestiwn ac Ateb: 2pm 8fed o Ebrill 2021
Dyddiad cau syniadau: 22ain o Ebrill 2021 (mae croeso i chi roi syniadau mewn cyn hyn a'u trafod gyda ni)
Penderfyniadau datblygu neu gomisiynu diwedd Ebrill/dechrau Mai 2021