S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Gwaredu Tapiau

Yn dilyn cyd-leoli technegol S4C yn Sgwâr Canolog BBC Caerdydd a digideiddio'r archif rhaglenni, mae S4C yn bwriadu cael gwared ar y tapiau ffisegol a ddelir yn ei chyn bencadlys ym Mharc Tŷ Glas Llanisien. Mae'r amserlen ar gyfer gwaredu yn golygu bod S4C yn edrych i wagio'r storfa erbyn diwedd Mehefin 2023.

Rydym am gynnig cyfle i gwmnïau adfer eu tapiau gwreiddiol ynghyd ag unrhyw dapiau 'rushes' os yn berthnasol cyn trefnu cael gwared ar y cynnwys sy'n weddill a byddwn yn cynnig dyddiadau i gynrychiolwyr y cwmni ymweld â'r archif.

Cysylltwch â Nerys Jones nerys.jones@s4c.cymru os oes gennych ddiddordeb mewn mynychu neu am ragor o wybodaeth.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?