Newyddion Cynhyrchu

Newyddion Cynhyrchu

S4C x TAC 2026: Adlewyrchu Cymru

Mae S4C a TAC yn falch o’ch gwahodd i’n cynhadledd flynyddol sy’n dod â’r diwydiant ynghyd i drafod a llunio dyfodol cynhyrchu a chreu cynnwys Cymraeg.

Dyddiad: 4-5 Tachwedd 2026
Lleoliad: Gwesty St George’s, Llandudno

Ymunwch â ni, ynghyd â chynhyrchwyr, rhydd-gyfranwyr, gweithwyr creadigol, siaradwyr gwadd ac arbenigwyr o Gymru a thu hwnt, i drafod dyfodol y diwydiant o safbwynt Cymraeg a Chymreig.

Mae’r gynhadledd, sydd yn cyd-fynd â Chyfarfod Cyffredinol Blynyddol TAC yn cael ei gynnal gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru drwy Cymru Greadigol. Bydd S4C yn lansio ei Strategaeth Amrywiaeth, yn rhannu ei gweledigaeth comisiynu am y 12-18 mis nesaf, ac yn cynnig cyfle i rannu syniadau, ysbrydoli a chydweithio i weld Cymru’n ffynnu.

Rydym yn annog cwmnïau i wahodd staff ar bob lefel, o dalent newydd i arweinwyr profiadol, i gymryd rhan yn y deuddydd o rwydweithio, dysgu ac edrych tuag at ddyfodol y diwydiant yng Nghymru. Mae’r gynhadledd yn rhad ac am ddim i’w mynychu, a bydd lluniaeth a chinio ar gael.

Archebwch eich lle.