S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cynhyrchu

Ffeithiol

Mae ystod rhaglenni ffeithiol S4C yn eang ac mae'n faes hynod gystadleuol – rhaglenni dogfen unigol, cyfresi fformat ac arsylwadol, cyfresi ffeithiol arbenigol, a chyfresi cylchgrawn. Mae angen i'r cynnwys fod yn gyfoes a pherthnasol, yn heriol ac weithiau'n ddadleuol. Mae'r gwyliwr yn chwilio am gynhesrwydd a hiwmor, didwylledd a realiti ac er mwyn cyflawni hyn mae'n rhaid i ni adlewyrchu Cymru gyfan a rhoi llais i bob dosbarth cymdeithasol. Ond yr elfen hanfodol mewn cynnwys ffeithiol o bob math yw stori dda sy'n mynd â ni ar siwrnai yn y foment ac yn cydio yn nychymyg y gwyliwr. Wrth gynnig syniad, cofiwch ystyried lle y bydd yn mynd yn yr amserlen, a cheisiwch feddwl am gyfresi a all ddychwelyd.

Cyfresi arsylwadol

Mae cyfresi arsylwadol yn boblogaidd ar S4C - yn arbennig cyfresi sy'n portreadu busnesau neu gymunedau lleol e.e. Loris Mansel Davies ac Ar y Byses. Rydym yn awyddus felly i chwilio am fusnesau, cymunedau neu sefydliadau, neu hyd yn oed unigolion sy'n fodlon i ni gael golwg ar eu bywydau a chael gwell dealltwriaeth o'u ffordd o fyw. Rydym hefyd yn chwilio am gyfresi sy'n mynd â ni i leoedd annisgwyl a dieithr ee byd pobl gefnog ac egsentric sy'n gwneud i ni ryfeddu a breuddwydio. Dydyn ni ddim yn chwilio am gyfres o bortreadau felly bydd y gallu i gael mynediad yn hanfodol yn y cyfresi hyn, er mwyn creu naratif sy'n digwydd ar draws y gyfres.

Cynnwys ffeithiol arbenigol

Yn y gorffennol rydym wedi comisiynu cyfresi fel Her yr Hinsawdd, Dylan ar Daith, Pethe, Natur Wyllt Iolo. Dyma gyfresi sy'n ehangu'n gorwelion drwy gael gwybod am hanes, gwyddoniaeth, crefydd, a'r celfyddydau. Beth bynnag yw'r syniad, mae'n bwysig cynnig ffordd ddyfeisgar ac annisgwyl o adrodd y stori.

  • Celfyddydau

Dydyn ni ddim yn chwilio am gyfres gelfyddydol ond rydyn ni'n barod i ystyried syniadau am raglenni sengl neu gyfresi byr, yn enwedig i gyd-fynd â phen-blwydd neu ddigwyddiad arbennig. Ond rhaid bod stori newydd i'w datgelu, un ai drwy ddeunydd archif, ffeithiau newydd neu gyfweliadau unigryw.

  • Hanes

Mae angen i olwg a naws ein cyfresi hanes fod yn fwy adloniadol drwy gyflwyno naratif mewn ffordd sy'n cyd-fynd â gweddill ein cynnwys. Dydyn ni ddim yn chwilio am raglenni sy'n cyflwyno traethodau academaidd, gyda chyfweliadau, ond yn hytrach yn eich annog i greu fformatau dyfeisgar, a chyflwyno cynnwys sy'n cynnig cyfle i ymchwilio, darganfod a dadansoddi gwybodaeth newydd. Mae'n bwysig ein bod ni'n gallu uniaethu a theimlo emosiwn tuag at ein ffigyrau hanesyddol, yn union fel pe baen nhw'n gymeriadau byw. Mae diddordeb gennym mewn cofnodi penblwyddi hanesyddol, ond bydd angen cyflwyno'r hanes mewn ffordd sy'n berthnasol i ni heddiw. Mae arbenigedd, perthnasedd ac angerdd y cyflwynwyr yn hanfodol er mwyn dod â'r cynnwys yn fyw.

  • Gwyddoniaeth

Prin yw'r cyfleoedd i gynnwys rhaglenni gwyddonol ond rydym yn awyddus i gomisiynu rhaglenni sy'n dweud rhywbeth am sut mae'n byd yn gweithio a sut mae'r byd hwnnw'n effeithio ar ein bywydau o ddydd i ddydd e.e. bwyd, iechyd, yr amgylchedd, pensaernïaeth, peirianneg. Y gamp fan hyn yw cyflwyno'r cynnwys mewn modd adloniadol ac osgoi'r wyddoniaeth yn y teitl! Unwaith eto, bydd yn hanfodol cynnwys arbenigwyr sy'n frwdfrydig ac yn llawn angerdd.

Hamdden

Dyma faes hynod boblogaidd a chystadleuol ar draws y sianeli i gyd. Ar S4C rydym yn chwilio'n benodol am gyfresi fformat a all ddychwelyd sy'n ymwneud â ffasiwn, teithio, gwyliau, a thai. Wrth greu'r fformat, ystyriwch yn ofalus pa mor ddidwyll yw'r syniad beth fydd y gwaddol i'r sawl sy'n cymryd rhan. Gall y cynnwys hamdden fynd i'r slot nos Iau rhwng 8 a 9 neu fel rhaglenni hanner awr ar nos Wener.

Dogfennau Mynediad Arbennig

Mae hwn yn dir cymharol newydd i S4C, ond yn faes rydym yn awyddus i'w ystyried ar gyfer slot 9.30 ar nos Fercher. Mae gennym ddiddordeb mewn cynnwys cyfoes sy'n sôn am bynciau sydd yn y penawdau'n gyson e.e. troseddu a'r heddlu, maethu a mabwysiadu, digartrefedd a thlodi, iechyd a pherthnasoedd. Mae'r rhain yn gyfresi uchelgeisiol ac mae angen cymeriadau mawr i arwain y straeon, a chydweithrediad arbennig i ymdrin â phynciau sensitif ac anodd. Gellir cael elfen o rigio ynglŷn â'r cynnwys sy'n caniatáu i ni glustfeinio ar sgyrsiau mewn sefyllfaoedd cudd.

Rhaglenni dogfen unigol

Rydym wedi creu strand newydd ar gyfer ein rhaglenni dogfen unigol o'r enw DRYCH. Dyma gyfle i'n gwneuthurwyr ffilmiau gorau wneud rhaglenni awr o hyd sy'n adlewyrchu Cymru a Chymry cyfoes. Rydym yn chwilio am ffilmiau sy'n uchelgeisiol o ran thema a chynnwys, gyda mynediad arbennig sy'n cyflwyno'r cyfarwydd â'r annisgwyl drwy stori gyfoes. Gallant fod yn heriol, yn dwymgalon neu'n ddoniol ond mae angen dweud y stori mewn modd ffres a newydd drwy'r dechnoleg a ddefnyddir i ffilmio neu drwy'r cynnwys golygyddol.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?