Croeso i ddiweddariad i'r adnoddau ar gyfer cynnig syniadau newydd i S4C. Mae croeso i unrhyw un, boed yn gynhyrchydd, cwmni neu unigolyn gynnig syniad i S4C. Gallwch drafod syniadau yn ffurfiol ag aelod o Dîm Comisiynu S4C bydd wedyn yn esbonio y camau nesaf.
Os oes diddordeb pellach, gofynnwn i chi ddarparu crynodeb o'r syniad, dim mwy na 100 o eiriau, yn ogystal â disgrifiad manwl yn Cwmwl ac hefyd drwy ddefnyddio yn ogystal (a dim ar ben ei hun) Ffurflen Gynnwys.
I gynnig syniad newydd drwy CWMWL cliciwch yma
Ffurflen Gynnwys (gwybodaeth gorfodol ychwanegol i gyd fynd â chynnig syniad drwy Cwmwl)
Yn gyffredinol dylid cyfyngu'r disgrifiad yma i 300 gair gan nodi pwyntiau allweddol megis enwau cynhyrchwyr a chyfarwyddwyr ac amcan o gost. Nodwch hefyd os yw'r cynigion wedi eu danfon at ddarlledwyr/platfformau eraill a cofiwch bod angen y Ffurflen Cynnwys!
Os ydych yn mewngofnodi am y tro cyntaf, bydd angen i chi greu cyfrif Gweinyddwr ar gyfer eich cwmni, ac yna dilynwch y cyfarwyddiadau.
Am unrhyw gymorth, cysylltwch ag Adran Materion Busnes S4C
Tîm Comisiynu: