Manon Edwards Ahir yw Cyfarwyddwr Cyfathrebu a Marchnata S4C.
Mae'n gyfrifol am adran sy'n cwmpasu holl waith hyrwyddo S4C a'i gynnwys yn ogystal â dealltwriaeth o gynulleidfaoedd a dadansoddiad o berfformiad gan y tim Ymchwil Cynulleidfa.
Yn aelod o Uwch Dîm Arwain S4C mae ei rôl yn un strategol sy'n gosod cyfeiriad clir drwy Strategaeth Gyfathrebu a Marchnata y sianel, gan weithio'n agos gyda'r Prif Weithredwr a'r Prif Swyddog Cynnwys i sicrhau sylw i S4C ar bob lefel.
Marchnata
Rebecca Griffiths yw Pennaeth Marchnata S4C ac yn arwain ar holl ymdrechion marchnata'r sianel gyda'r nod o hyrwyddo S4C a'i chynnwys i wylwyr ledled Cymru, y DU a thu hwnt o fewn ecosystem ddigidol. Mae Rebecca yn gyfrifol am oruchwylio gwaith dydd i ddydd y timau Marchnata, Brand a Chreadigol sy'n cynnwys datblygu ymgyrchoedd a strategaethau cynulleidfa aml-lwyfan. Mae ei thîmoedd yn cydweithio'n agos gyda Cyfathrebu a Digidol ar ymgyrchoedd integredig i gyrraedd cynulleidfaoedd mor amrywiol â phosib.
BrandaChreadigol_BrandandCreative@s4c.cymru
Cyfathrebu
Rhian Adams yw Pennaeth Cyfathrebu S4C. Mae'n arwain ar holl waith cyfathrebu'r sianel gan gydlynu ymdrechion y tim mewnol – o waith blaengynllunio a rheoli ymgyrchoedd, monitro sylw a sicrhau safon yr holl ddeunydd sy'n cael ei gynhyrchu. Mae Rhian hefyd yn gyfrifol am gyfathrebu mewnol a chorfforaethol yn ogystal â rheoli tim Gwifren sy'n ymgysylltu gyda'n cynulleidfaoedd yn ddyddiol. Mae ei thîm yn cydweithio'n agos gyda Marchnata a Digidol ar ymgyrchoedd integredig i gyrraedd cynulleidfaoedd ac hyrwyddo S4C a'i holl gynnwys.
Ymchwil Cynulleidfa
Dan arweiniad Eilir Jones, mae'r tim Ymchwil Cynulleidfa yn gyfrifol am gasglu, rhannu a dehongli'r wybodaeth ddiweddaraf am gynulleidfaoedd S4C ar draws ei phlatfformau a thueddiadau gwylio ehangach ar draws y byd darlledu. Bydd yr holl wybodaeth sydd gennym yn cael ei defnyddio'n helaeth gan y timau Comisiynu, Cynllunio, Llwyfannau, Digidol, Marchnata a Chyfathrebu er mwyn creu cynnwys sy'n apelio ar draws cynulleidfaoedd amrywiol, ei ddarparu ar y llwyfannau mwyaf cyfleus, a denu sylw a gwerthfawrogiad i'r cynnwys hynny yn y modd mwyaf addas.