S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cynhyrchu

Tour de France a'r Cycling Classics

Mae S4C wedi sicrhau hawliau i ddarlledu rhaglenni o'r Tour de France a rhai o rasys y Cycling Classics.

Rydym yn gwahodd cwmnïau sydd â phrofiad o gynhyrchu rhaglenni chwaraeon i S4C i gynnig am y gwaith. Am fwy o fanylion, cliciwch yma.

Dyddiad Cau: 12:00 canol dydd Dydd Gwener 11 Ebrill 2014

Cwestiwn 1:

Beth yw'r bwriad gyda 3 ras y Cycling Classics sy'n cael eu cynnal ym mis Ebrill 2014 ac oes angen eu cynnwys yn y gyllideb?

Ateb 1:

Y bwriad yw creu rhaglen uchafbwyntiau o bob un o'r 3 ras yma a'u darlledu yn ystod y misoedd nesaf. Y tebygrwydd yw y bydd uchafbwyntiau'r 3 ras yma'n cyrraedd ar dâp oddi wrth y trefnwyr ac mi fydd angen i chi gynnwys y gost o greu rhaglenni uchafbwyntiau (3 x 30m) i S4C yn eich cyllideb chi.

Cwestiwn 2:

At bwy mae'r rhaglenni wedi eu hanelu?

Ateb 2:

Cynulleidfa eang. Ni ddylid rhagdybio eu bod yn deall neu yn dilyn seiclo.

Cwestiwn 3:

Ai lleisio yn unig fydd angen ar gyfer y rhaglenni uchafbwyntiau?

Ateb 3:

Ie.

Cwestiwn 4:

A fydd uchafbwyntiau'r 3 ras nesaf yn cael eu lleisio gan y cwmni buddugol?

Ateb 4:

Byddan. Bydd y 3 rhaglen yn cael eu darlledu yn hwyrach yn y flwyddyn.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?