Cleddau

Cleddau

Mae ail gyfres y ddrama drosedd Cleddau wedi dychwelyd wrth i DI Ffion Lloyd a DS Rick Sheldon chwilio am lofrudd sy'n boddi menywod yn yr Afon Cleddau.

Nosweithiau Sul am 21:00 ar S4C.

Gwyliwch bob pennod nawr ar S4C Clic a BBC iPlayer.



  • Cleddau - Cyfres 1

    Cleddau - Cyfres 1

    Mae darganfyddiad corff nyrs yn y goedwig yn adlais o achos o lofruddiaethau hanesyddol. Ymhlith ofnau bod hwn yn waith 'copycat', mae Detective Inspector Ffion Lloyd yn cael ei galw nôl i arwain yr ymchwiliad er gwaethaf gwrthwynebiad DS Rick Sheldon. Gweithiodd Ffion a Rick yr achos hanesyddol gyda'i gilydd, ond roedden nhw hefyd wedi dyweddïo ar un adeg. Nawr nôl yn gweithio gyda'i gilydd maen nhw'n ceisio darganfod ai llofruddiaeth trais domestig yw hyn neu rhywbeth tywyllach.

  • Sut i wylio S4C

    Sut i wylio S4C

    Ar ba sianel deledu mae S4C? Ydy S4C ar gael ar-lein? Pa ddyfeisiau alla'i ddefnyddio i wylio S4C? Yr atebion i gyd ar un dudalen.

  • S4C Clic

    Cyfrif newydd mewn 2 cam syml

    S4C Clic

    1. Yn gyntaf, rhowch eich enw i mewn, gyda'ch cyfeiriad e-bost a dewis cyfrinair.

    2. Wedyn, bydd angen dewis eich iaith, yn ogystal â chytuno â thelerau S4C. Gwasgwch y botwm 'Cofrestru' a chi'n barod i wylio cynnwys ar S4C Clic!

Image