S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Bwyd Epic Chris

Sbrowts

Os 'da chi ddim yn ffan o sbrowts, rhowch go ar y recipe yma! 'Da chi'n guaranteed o lyfio fo.

Torrwch y gwaelodion i ffwrdd a thynnu'r croen cyn eu torri yn ei hanner.

I fynd efo'r sbrowts dw i am wneud menyn rili cŵl efo garlic ac anchovies.

Mewn padell sych ar wres canolig dw i'n rhoi'r sbrowts i mewn ar yr ochr sydd wedi ei dorri.

Gadewch nhw am 3-4 munud i ddatblygu crust. Iawn ta – gorfod ca'l 'chydig bach o booze! Ma' vermouth extra sych yn gweithio'n berffaith efo hwn.

Gadewch hwnna i reducio tua hanner a chwcio'r booze off.

Yna, ychwanegwch y menyn anchovies a'i adael i doddi dros y sbrowts i gyd.

Be' sy'n mynd yn berffaith efo hwn ydi 'chydig o bersli felly torrwch beth yn fân a'i ychwanegu at y sbrowts efo pupur du.

A dyna ni – sbrowts perffaith turbo charged mewn 10 munud!

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?