S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Planhigion Alpaidd


Draw yng ngardd Pont-y-Tŵr, mae Sioned yn parhau gyda’r thema alpaidd, ac yn dangos i ni sut mae creu gardd greigiog Meinir ar raddfa hyd yn oed yn llai.


Aethionema Kotschyi

Aethionema Kotschyi

Planhigyn lluosflwydd bach gyda deiliach glas/gwyrdd yn ffurfio siâp bynsen fach.

Pennau o flodau pinc ar goesau rhwng 6-10cm yn y Gwanwyn.

Planhigyn ar gyfer safle agored sydd â draeniad da, yn ddelfrydol ar galchfaen.

Gwych ar gyfer cafnau, sgri neu dŷ planhigion alpaidd.

Sempervivum arachnoideum v. laggeri

Sempervivum arachnoideum v. laggeri

Cobweb Houseleek.

Rhosedau bach bytholwyrdd gyda blaenau coch.

Mae'r planhigyn yma angen haul llawn a safle sydd â draeniad da.

Gwych ar gyfer cafnau, waliau neu lwybrau.

Blodau pinc.

Hypericum

Hypericum balearicum

Is-goeden fach fytholwyrdd sy'n tyfu i faint o 40-50cm gyda dail gwyrdd tywyll crychlyd.

Mae'n cynhyrchu blodau melyn o faint 2-3cm yng nghanol yr haf.

Mae angen pridd sy'n draenio'n dda mewn ardal heulog neu gysgodol.

Mae'n well ei docio pob Gwanwyn i'w gadw yn fach.

Globularia bellidifolia ‘Horts’

Globularia bellidifolia 'Horts'

Dail gwyrdd tywyll sy'n fytholwyrdd wedi eu gorchuddio â blodau bach glas ar goesau o 4-5cm yn y Gwanwyn.

Ardderchog ar gyfer cafnau, neu sgri sydd â draeniad da.

Achillea x lewisii King Edward

Achillea x lewisii King Edward

Planhigyn bytholwyrdd sydd â blodau melyn rhwng mis Mai-Gorffennaf.

Deiliach gwyrdd-llwyd.

10-15cm o uchder x 30-40cm mewn lled

Rhowch mewn pridd sy'n draenio'n dda mewn ardal sy'n cael haul llawn.

Erigeron Canary Bird

Erigeron 'Canary Bird'

Planhigyn gwych ar gyfer ei arddangos sydd â blodau llygad y dydd melyn.

Addas ar gyfer cafnau neu sgri.

8-10cm o uchder, 20cm mewn lled.

Blodeuo trwy'r haf.

Dianthus ‘Eileen Lever’

Dianthus 'Eileen Lever'

Mae'r planhigyn yma yn ffurfio blodau pinc ar goesau bach.

Addas ar gyfer cafnau, sgri, neu dŷ ar gyfer planhigion alpaidd.

Mae angen haul a safle sydd â draeniad da.

Saxifraga Alan Hayhurst

Saxifraga 'Alan Hayhurst'

Math prin gyda blodau gwyn â smotiau coch wedi eu ffurfio mewn stribedi o ganol y petalau.

Rhosedau arian deniadol.

Addas ar gyfer cafnau, sgri, twffa neu waliau mewn safle agored.

Phlox

Phlox douglasii 'Zigeunerblut'

Planhigyn sy'n ffurfio clustog goch tua 6-12cm o uchder x 20-30cm mewn lled.

Wedi ei orchuddio â blodau coch mis Ebrill/Mai.

Ar gyfer pridd sydd â draeniad da mewn ardal agored.

Addas ar gyfer gardd gerrig, waliau neu gafnau.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?